Prifysgol Abertawe a busnesau i dreulio amser yn datblygu buddion economaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda busnesau a sefydliadau mewn ffordd newydd drwy ddarparu lleoliadau tymor byr i gyflogwyr a staff, diolch i'r Rhaglen Mewnwelediad Strategol (SIP) a gynhelir ar draws Cymru gyfan.

Hyd yma mae'r Rhaglen Mewnwelediad Strategol wedi cefnogi dros 30 o leoliadau rhwng Prifysgol Abertawe, busnesau a sefydliadau, gan ragori ar ddisgwyliadau a thargedau gwreiddiol. Mae Chris Talbot, Cydlynydd SIP a Rheolwr y Rhaglen yn yr Adran Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe wrth ei fodd gyda'r effaith y mae'r rhaglen wedi'i chael.

Meddai: 'Mae lleoliadau SIP yn gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau ddatblygu perthnasau newydd ac archwilio syniadau cyffrous tu hwnt gyda Phrifysgol Abertawe a all ddatblygu i fod yn gydweithrediadau yn y dyfodol. Mae'r lleoliadau'n darparu cyllid i staff o'r brifysgol neu o sefydliad i dreulio amser yn rhannu gwybodaeth, yn datblygu dealltwriaeth ac yn chwilio am gyfleoedd o fewn y sefydliad lletyol i ffwrdd o bwysau eu rôl bob dydd. Bydd buddsoddi ychydig bach o amser i ddechrau yn arwain at rywbeth mwy o lawer yn y pen draw, gyda mwy o wobr a chanlyniadau ar gyfer yr academydd a'r busnes dan sylw.

Bwriad y lleoliadau yw adeiladu perthynas gref, strategol rhwng Prifysgol Abertawe a busnes.  Mae'r lleoliad yn gallu gweithredu fel llwyfan ar gyfer syniadau, lle y caniateir amser meddwl gwerthfawr i'r naill barti i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau eraill ar ôl i'r lleoliad ddod i ben.

Treuliodd Huw Morgan o GP Commissioning Solutions Ltd yn Llanelli amser gyda'r Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac o ganlyniad sefydlodd dau brosiect masnachol newydd rhwng Prifysgol Abertawe, eu busnes a chwsmeriaid sy'n talu. Mae'r berthynas wedi datblygu ymhellach ac mae GPC bellach wedi datblygu prosiect labordy iechyd newydd gyda'r Coleg Meddygaeth, sy'n galluogi iddynt wella eu cymwysiadau meddalwedd a fydd yn ei dro yn creu cyfleoedd masnachol eraill newydd.

Meddai: 'Rydym yn disgwyl cynnal ac adeiladu ar y cyfle y mae'r prosiect hwn wedi'i ddarparu a gweithio hyd yn oed yn agosach â Phrifysgol Abertawe. Mae gallu darparu amser penodol i drafod ein syniadau gyda staff academaidd wedi ein helpu i adnabod rhagolygon a chyfleoedd newydd ar gyfer y Brifysgol, ond hefyd ar gyfer ein hunain a sefydliadau trydydd parti.' 

Yn hanfodol i'w llwyddiant, mae lleoliadau SIP yn dibynnu ar y cysylltiad cywir rhwng busnes ac academydd ym Mhrifysgol Abertawe.  Gyda blwyddyn arall o ariannu sy'n ymestyn y rhaglen wreiddiol tan fis Gorffennaf 2014, mae Prifysgol Abertawe'n edrych ymlaen at flwyddyn arall o weithio gyda busnesau a sefydliadau ac i ddatblygu cydweithrediadau cyffrous ar gyfer y dyfodol.