Plant a phobl ifanc Abertawe yn dathlu eu hawl i fynegi barn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, mae plant a phobl ifanc ar draws Abertawe'n dathlu cydnabod eu hawl i fynegi barn, gan fod Abertawe'n dod yn brifddinas hawliau plant y Deyrnas Unedig

Children's rights schools singing

Mewn dathliad yn Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, perfformiodd plant o ysgolion ar draws Abertawe o flaen cynulleidfa o bobl bwysig, i esbonio paham bod hawliau plant a phobl ifanc yn bwysig, a phaham eu bod mor falch mai eu hawdurdod nhw yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd disgyblion o ysgolion Cadle, Burlais, Brynhyfryd, Gwyrosydd, Penllergaer, Glyncollen a Llanrhydian wedi ymuno â disgyblion ysgolion Blaenymaes, Hafod a Phentrehafod i ganu'r gân ysbrydol 'Y Byd yn Gytûn', a'u hanthem emosiynol eu hunain, sef 'Hawliau Ysgol'.

Clywodd y plant areithiau dathlu oddi wrth Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru; Ms Theresa Bergin a Sara Hooke, o UNICEF; y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Canghellor Phrifysgol Abertawe; Yr Athro Richard Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe;  Arweinydd ac Aelodau Cabinet Cyngor Abertawe; a Dr Anthony Charles, o Brifysgol Abertawe.

Roedd yr holl siaradwyr yn llongyfarch ymagwedd unigryw newydd Dinas a Sir Abertawe, sy'n ymgorffori hawliau plant ym mholisïau’r cyngor.  Roeddent hefyd yn croesawu'r bartneriaeth rhwng y Cyngor a Phrifysgol Abertawe, fydd yn galluogi'r Brifysgol - sy'n gartref i Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc - i fod yn Gorff Monitro allanol y Cyngor ar gyfer hawliau plant a phobl ifanc.

Children's rights mascot winner

Yn ystod y digwyddiad, dadorchuddiodd David Phillips, Arweinydd y Cyngor, fasgot newydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar gyfer Abertawe.

Mae mabwysiadu'r Confensiwn yn golygu y bydd dyletswydd ar Gabinet Cyngor Abertawe i roi sylw priodol i hawliau plant a phobl ifanc. Cyhoeddir Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc bob blwyddyn i hysbysu pobl Abertawe o'r hyn mae'r Cyngor yn ei wneud i ymgorffori sylw priodol a hawliau plant yn ei waith, a bydd yr Awdurdod yn parhau i gydweithio'n agos â Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod yr hyn mae'n ei wneud yn effeithiol ac yn dryloyw. Mae'r penderfyniad yn adeiladu ar waith hirdymor y cyngor i gefnogi hawliau plant a phobl ifanc yn ei bolisïau a'i arferion.

Meddai'r Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Canghellor Prifysgol Abertawe, oedd yn gyfrifol am gyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 pan oedd yn Brif Weinidog Cymru:

"Mae'n beth gwych i mi weld Abertawe - y Ddinas a'r Brifysgol - yn gwneud cynnydd newydd a sylweddol o ran hawliau dynol plant a phobl ifanc.

"Pan oeddwn i'n Brif Weinidog, roeddwn i'n benderfynol o sicrhau bod ein cyfreithiau'n cefnogi ein hymrwymiad unigryw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Digwyddodd hynny pan basiwyd y Mesur yn 2011.

"Nawr, yn Ganghellor, dwi'n arbennig o falch i wybod bod y Brifysgol wedi cyfrannu i ddatblygu 'Mesur' lleol arloesol Abertawe, ac y bydd y Brifysgol, gydag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, yn chwarae rôl allweddol wrth roi'r mesur ar waith."

Dywedodd y Cynghorydd Mitchell Theaker, Aelod Cabinet ar gyfer Cyfleoedd Plant a Phobl Ifanc:

"Pan gymeradwyodd y Cyngor y cynnig yr oedden innau a'r Cynghorydd Will Evans wedi'i roi gerbron ar 24 Medi 2013, roedd y Cyngor yn gwneud llawer mwy na chreu polisi newydd.   Roedd yn anfon neges glir i blant a phobl ifanc yn Abertawe ein bod yn meddwl eu bod o werth, a'n bod am iddynt ragori.

"Trwy'r Cynnig hwn, anfonodd y Cyngor neges glir ei fod am chwalu tlodi yn ein Dinas, creu cyfleoedd i'r rhai sydd, yn aml, yn fwyaf agored i niwed, a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe'n cael cymorth i wneud eu gorau glas.

"Un o'r pethau a'm denodd i wleidyddiaeth oedd yr awydd i wneud gwahaniaeth. Dwi am i bob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe allu gwneud gwahaniaeth hefyd: gwahaniaeth yn eu cymunedau, gwahaniaeth yn eu bywydau eu hunain, a gwahaniaeth i Abertawe. Mae'r hyn yr ydym wedi'i wneud yn Abertawe yn gosod sylfaen fel y gall hynny digwydd."

Mae ysgolion Blaenymaes, Pentrehafod a Hafod ymhlith y rhai sydd eisoes wedi ymgorffori'r confensiwn yn eu gwaith trwy’r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau.

Dywedodd Bev Phillips, Pennaeth Ysgol Gynradd Blaenymaes:

"Mae'r rhaglen hon wedi galluogi plant i ddeall yn well paham ein bod yn gweithio mewn modd penodol, ac i ddylanwadu ar newid er gwell.

"Mae'r plant yn hapusach yn yr ysgol, maen nhw am ddod i'r ysgol yn y bore, ac maen nhw am helpu ei gilydd i ddysgu.

"Maen nhw'n fwy hyderus, ac yn fwy parod i chwarae rôl allweddol wrth i ni benderfynu sut mae'r ysgol yn datblygu ac yn symud ymlaen. Mae wedi helpu i ddod â'r gymuned ehangach at ei gilydd hefyd."

Cynhaliwyd y lansiad yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, ac fe'i darlledwyd trwy lif byw ar draws Abertawe, gan gynnwys i'r sgrin fawr yng Ngerddi'r Castell.  Roedd ar gael i ysgolion trwy eu systemau Mwdl.