Gwyddonwyr yn dangos ochr gadarnhaol steroidau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Sefydliad Karolinska, yn Stockholm, Sweden wedi canfod dau fath o foleciwl steroid sydd â swyddogaeth bwysig yn y ffordd mae celloedd nerf yn cael eu cynhyrchu, ac yn goroesi, yn yr ymennydd.

Gallai'r darganfyddiad (cyhoeddwyd y manylion yn y cylchgrawn rhyngwladol Nature Chemical Biology) fod yn arwyddocaol yn y tymor hir o ran trin sawl clefyd, megis clefyd Parkinson.

Mae'r grŵp yn Labordy Niwrofioleg Foleciwlaidd yn Karolinska wedi dangos o'r blaen bod derbynyddion, a elwir yn 'dderbynyddion afu X', yn angenrheidiol er mwyn cynhyrchu gwahanol fathau o gelloedd nerf, neu niwronau, yn yr ymennydd datblygol.

Mae gan un o'r mathau hyn, y niwronau yn yr ymennydd canol sy'n cynhyrchu dopamin, rôl bwysig mewn nifer o glefydau, megis clefyd Parkinson.  Yr hyn nad oedd yn hysbys, fodd bynnag, oedd pa foleciwlau sy'n sbarduno'r derbynyddion hyn yn yr ymennydd, fel bod modd ysgogi cynhyrchu celloedd nerf newydd.

Mae cydweithio rhwng grŵp Karolinska a'r Athro William J Griffiths a Dr Yuqin Wang ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arbenigwyr mewn defnyddio Sbectrometreg Màs i adnabod biomoleciwlau, wedi arwain at ddarganfod dau fath o foleciwl steroid sy'n rhwymo â'r derbynyddion ac yn eu rhoi ar waith.

Prof William Griffiths“Gelwir y ddau foleciwl hyn yn asid colig a 24S,25-epoxycholesterol, sy'n asid bustlog ac yn perthyn yn agos i golesterol," meddai'r Athro William J Griffiths.

"Mae'r moleciwl cyntaf, asid colig, yn dylanwadu ar gynhyrchu a goroesi niwronau o fewn yr hyn a elwir yn 'niwclews coch', sy'n bwysig o ran negeseuon yn cyrraedd o rannau eraill yr ymennydd.

"Mae'r moleciwl arall, 24S,25-epoxycholesterol, yn dylanwadu ar gynhyrchu celloedd nerf newydd sy'n cynhyrchu dopamin, sy'n bwysig o ran rheoli symud."

Un casgliad pwysig yr astudiaeth yw y gellir defnyddio 24S,25-epoxycholesterol i droi celloedd bonyn yn niwronau'r ymennydd canol sy'n cynhyrchu dopamin, sef y math o gell sy'n marw yng nghlefyd Parkinson.

Dr Yuqin WangYchwanegodd Dr Yuqin Wang, "Mae'r darganfyddiad hwn yn agor y posibiliad o ddefnyddio moleciwlau steroid mewn meddyginiaethau adfywiol yn y dyfodol, gan y gellid trawsblannu celloedd a grëwyd yn y labordy i gynhyrchu dopamin i gleifion gyda chlefyd Parkinson.

Cyhoeddwyd papur ymchwil y tîm, “Brain endogenous liver X receptor ligands selectively promote midbrain neurogenesis”, ar-lein yn y cylchgrawn blaengar Nature Chemical Biology yn http://www.nature.com/nchembio/journal/vaop/ncurrent/abs/nchembio.1156.html.