Gwyddonwyr chwaraeon yn gweithio gyda West Ham i wella adferiad pêl-droedwyr ar ôl gêm

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae clwb pêl-droed yn yr Uwch-gynghrair, West Ham United, yn tynnu ar wybodaeth ac arbenigedd academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Abertawe i helpu adferiad pêl-droedwyr proffesiynol ar ôl gemau.

‎Mae Dr Liam Kilduff o'r Ganolfan Ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg,  Ymarfer a Meddygaeth, Eamon Swift, Pennaeth Gwyddor Chwaraeon a Matt Evans, Gwyddonydd Chwaraeon Cynorthwyol o West Ham United, a Tom Taylor, myfyriwr MSc ym Mhrifysgol Abertawe wedi cydweithio ar brosiect sy'n ymgorffori dull adferiad newydd yn arferion adferiad chwaraewyr ar ôl gêm.

West Ham collaborationAmlygwyd arwyddocâd yr astudiaeth newydd hon gan ymchwil blaenorol.  Dangosodd yr ymchwil hwnnw y gall gymryd hyd at bedwar diwrnod i chwaraewyr gael adferiad llwyr ar ôl gêm gystadleuol, ac weithiau, gofynnir i chwaraewyr chwarae pum gêm gystadleuol mewn pythefnos.

Dywedodd Dr Liam Kilduff, sy'n gweithio yn Adran Peirianneg y Brifysgol: "Mae astudiaethau wedi amlygu'r ffaith mai rhedeg dwys, sbrintio, a newid cyfeiriad yw prif elfennau'r gêm sy'n effeithio ar adferiad ffisiolegol y chwaraewyr.

Dr Liam Kilduff"Mae'r astudiaeth yr ydym newydd ei orffen gyda West Ham yn defnyddio dangosyddion sefydledig adferiad i ystyried sut y gall strategaeth adferiad newydd - yn seiliedig ar gynyddu llif y gwaed yn y cyhyrau - helpu adferiad chwaraewyr.

"Mae canfyddiadau cynnar gyda chwaraewyr rygbi wedi dangos bod rôl botensial i'r dechneg hon yn y broses adferiad, yn arbennig pan ystyrir y gofynion teithio ar athletwyr proffesiynol yn y byd sydd ohoni.

"Mae gyda ni berthynas gref â West Ham yn barod - mae tri o'n graddedigion Gwyddor Chwaraeon bellach yn gweithio yn y clwb. Gobeithio y bydd y berthynas hon - a adeiladwyd ar gydweithredu a rhannu gwybodaeth - yn parhau i ddatblygu yn y dyfodol er lles y chwaraewyr, y clwb, ac ymchwil gwyddor chwaraeon Abertawe.

Dywedodd Eamon Swift, sydd, fel ei gydweithiwr Matt Evans yng nghlwb West Ham, yn raddedig Gwyddor Chwaraeon Abertawe: "Mae adferiad y chwaraewyr yn faes allweddol ym mhêl-droed proffesiynol, ac yn un yr ydym wedi bod yn ei ystyried ers sawl blwyddyn.

"Pan ymunodd Tom Taylor â ni fel intern, a phan gododd y cyfle hwn i weithio gyda Dr Liam Kilduff ar brosiect o'r fath, yn amlwg roeddem yn awyddus iawn i gymryd rhan.

"Mae enw da Prifysgol Abertawe o ran ymchwil chwaraeon elitaidd heb ei ail - mae ymchwil Dr Kilduff a'i gydweithwyr yn y Ganolfan yn cael effaith sylweddol ar ein gwaith ni.

"Rydym o'r farn bod gan y strategaeth adferiad hon botensial mawr i ni, yn arbennig o ran cyfnodau dwys a gofynion teithio. Mae nifer o'n chwaraewyr hŷn wedi dweud eu bod yn teimlo bod y dull adferiad wedi helpu eu hadferiad ar ôl gêm."

Ychwanegodd Tom Taylor, myfyriwr MSc sy'n intern gyda West Ham yn ystod tymor 2012-13: "Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig Gwyddor Chwaraeon yn Abertawe, penderfynais ymgeisio i astudio am MSc, ac roedd Dr Kilduff wedi fy helpu i gael interniaeth yn West Ham United, wrth ochr f'astudio.

"Dewisais ganolbwyntio ar adferiad chwaraewyr pêl-droed proffesiynol oherwydd, ar ôl trafod gydag Eamon Swift, daeth yn amlwg i mi bod hyn yn faes lle'r oeddem ni'n teimlo y gallwn wneud gwir wahaniaeth i baratoadau'r chwaraewyr. 

"Mae'r interniaeth a'r cyfle i weithio ar y prosiect ymchwil cydweithredol hwn wedi caniatáu i mi weithio gyda dau dîm gwyddor chwaraeon o'r radd flaenaf.  Mae wedi bod yn brofiad gwych, ac mae wedi gwella fy sgiliau a fy nghyflogadwyedd at y dyfodol yn bendant."