Gwobr Efydd i Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ddal ei gafael ar wobr efydd Athena SWAN, y Siarter ar gyfer Merched mewn Gwyddoniaeth.

 Swan AwardCafodd Athena SWAN ei sefydlu yn 2005 er mwyn dathlu cyfraniad merched sy’n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg mewn addysg uwch ag ymchwil.

Derbyniodd Athena SWAN fwy o geisiadau nag erioed eleni felly bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno i adrannau unigol a sefydliadau addysg uwch ar draws y DU.

Enillodd Prifysgol Abertawe y wobr am y tro cyntaf yn 2009 ac mae’r Brifysgol wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth geisio cefnogi datblygiad staff ymchwil ac academaidd benywaidd ers hynny.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae sawl aelod o staff ymchwil ag academaidd wedi ymuno â’r Brifysgol a’r gobaith yw cynyddu’r nifer ymhellach dros y pum mlynedd nesaf.

Derbyniodd Mr David Williams, Mrs Misbha Khanum a Miss Charlotte James o Brifysgol Abertawe y wobr mewn dathliad arbennig yng Nghymdeithas Frenhinol Caeredin ddechrau'r mis a bydd y wobr yn ddilys tan Ebrill 2016.

Meddai Diane Kelly, Athro mewn Microbioleg gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: ‘‘Rwyf wrth fy modd fod y Brifysgol wedi llwyddo i ddal ei gafael ar y wobr hon. Rydym wedi gweithio’n galed dros y tair blynedd diwethaf i ddatblygu ein cynllun. Hoffwn ddiolch i bawb fuodd ynghlwm o’r Brifysgol am eu hymrwymiad a’n tîm Cyfle Cyfartal am eu cefnogaeth. Yn y dyfodol, bydd y Brifysgol yn annog ac yn cefnogi pob Coleg STEMM i fabwysiadu egwyddorion Athena SWAN ag ymgeisio am eu gwobrwyon eu hunain. Felly gobeithio y byddwn yn gweld newid yn yr agwedd tuag at ferched ym mhob gradd yn y pynciau o dan sylw.’’

Athena logo 1   Athena logo 2