Dyfarnu naw ysgoloriaeth ymchwil ddoethur ESRC i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn naw ysgoloriaeth ymchwil PhD gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (DTC) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru ar gyfer 2013.

Rhagwelir y bydd yr ysgoloriaethau ymchwil breintiedig hyn yn denu myfyrwyr eithriadol a chanddynt radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch a/neu radd meistr priodol. Bydd y myfyrwyr yn ymuno â chymuned o fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n tyfu sydd wedi'u cartrefu yn Sefydliad Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (RIASS) y Brifysgol.

Mae'r ysgoloriaethau ymchwil PhD ar gael ar gyfer y meysydd ymchwil canlynol:

  • Economeg
  • Daearyddiaeth Ddynol
  • Astudiaethau Rhanbarthol ar Sail Iaith
  • Astudiaethau Cyfreithiol Cymdeithasol (Troseddeg)
  • Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

Meddai'r Athro Judith Phillips, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr RIASS: 'Rydym wrth ein bodd bod Canolfan Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru wedi dyfarnu naw ysgoloriaeth ymchwil PhD bellach i Abertawe ar gyfer 2013. Bydd y buddsoddiad hwn yn y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn galluogi Abertawe i barhau i ddenu'r ymgeiswyr doethur gorau ac yn atgyfnerthu ein cymuned ymchwil ôl-raddedig llwyddiannus ym maes y gwyddorau cymdeithasol.'