Digwyddiad: Ffilm ‘Thin Ice’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dyddiad: Dydd Llun 22 Ebrill 2013

Amser: 4yp

Lleoliad: Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb

Crynodeb o’r digwyddiad:  

I ddathlu ‘Diwrnod Byd Eang’ bydd Prifysgol Abertawe yn dangos ffilm ‘‘Thin Ice – The inside story of climate science.’’

Cafodd y ffilm ei chreu er mwyn i bawb weld y gwaith sy’n digwydd a’r ymdrech wyddonol sydd ei angen er mwyn ein cynorthwyo i ddeall newid hinsawdd.

Mae llawer o bwyslais wedi bod ar newid hinsawdd yn ddiweddar felly mi wnaeth y daearegwr Simon Lamb ddefnyddio’i gamera er mwyn portreadu’r hyn sy’n digwydd.

Caiff y digwyddiad ei noddi gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Gellir gweld clip o’r ffilm yma http://thiniceclimate.org/blog/details/2658/thin-ice-the-inside-story-of-climate-science

Cyswllt: Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: c.froyd@abertawe.ac.uk