Digwyddiad dros ginio - Arwain Twf Busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen datblygu arweinyddiaeth broffesiynol, wedi ei dylunio i wella sgiliau arwain arweinwyr a pherchnogion-reolwyr busnesau bach a chanolig eu maint, yn cynnal digwyddiad rhagolwg rhad ac am ddim ym Mhorthladd Aberdaugleddau y mis hwn. (23 Hydref, 12.30 - 2.00pm).

LEAD WalesBydd y digwyddiad yn ffocysu ar sut y mae rhaglen LEAD Cymru Prifysgol Abertawe wedi helpu busnesau ar draws Cymru i gynyddu eu trosiant 26% y flwyddyn ar gyfartaledd.

Meddai un sydd newydd raddio o'r rhaglen, Maudie Hughes, Prif Weithredwr Twristiaeth Sir Benfro: "Mae rhaglen LEAD Cymru'n cynnig amrywiaeth eang o sgiliau a dysgu ymarferol a damcaniaethol, wedi eu cyflwyno mewn amryw o ddulliau gwahanol. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i berchnogion-reolwyr weithio AR eu busnesau yn hytrach nag YNDDYNT, a thrwy hynny i ddatblygu a chryfhau eu sgiliau, ac adnabod cyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae fy mhrofiad i o LEAD Cymru wedi bod yn hynod gadarnhaol; rydwi'n fwy hyderus yn fy ngallu, ac mae effaith hyn ar fy musnes eisoes yn eglur gan fod ein cyfeiriad a'n strategaeth yn gadarn, ac mae'r tîm wedi tyfu i gefnogi hyn."

Meddai Gary Walpole, Rheolwr Gweithrediadau a Marchnata LEAD Cymru: "Byddwn yn annog busnesau ar draws Sir Benfro i gymryd mantais o'n digwyddiad rhagolwg er mwyn dysgu sut y gall ein rhaglen fod o fudd i'w busnesau. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gael profiad uniongyrchol o sut y gall gwella sgiliau arweinyddiaeth wella perfformiad busnesau." 

Meddai Mark Andrews, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol: "Rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi rhaglen LEAD Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan ein bod ym ymroddedig i helpu datblygu pobl a busnesau yn Aberdaugleddau ac ar draws Sir Benfro".

Digwyddiad Rhagolwg

Mae mynychu'r Digwyddiad Rhagolwg Arweinyddiaeth yn RHAD AC AM DDIM ac mae'n disgrifio sut y gall ymrwymo i awr y dydd yn unig yn gweithio ar eich busnes eich helpu i gyrraedd lefelau llwyddiant newydd. 

Ble: Porthladd Aberdaugleddau, SA73 3EP

Pris: AM DDIM

Dyddiad ac Amser:  23 Hydref 2013,  12.30pm – 2.00pm

Gall unrhyw un sydd â diddordeb ac am wybod mwy gofrestru am y digwyddiad rhagflas  rhad ac am ddim drwy evenbrite, drwy gyfrwng y wefan www.leadwales.co.uk.  Yn y digwyddiad bydd cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr blaenorol a dysgu am y rhaglen sydd wedi'i chyllido'n llawn. 

LEAD Cymru

Mae'r rhaglen datblygu arweinyddiaeth hon wedi'i chyllido'n llawn a wedi ei dylunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain arweinyddion, perchnogion-reolwyr a chyfarwyddwyr Mentrau Bach a Chanolig eu Maint sydd wedi eu lleoli yn ardal Cydgyfeirio Cymru.

Caiff y rhaglen £8 miliwn ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, a'i chyflwyno gan Adran Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Abertawe ac Ysgol Fusnes Bangor, ac mae'n cynnwys £5 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Pwy sy'n gymwys

  • Arweinydd neu berchennog-reolwr cwmni neu fenter cymdeithasol
  • Wedi'i leoli yn ardal cyd-gyfeirio Cymru
  • Wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd neu ragor
  • Yn cyflogi o leiaf 4 aelod o staff