Darlith Gymunedol AABO, Tachwedd: Jane Austen a'r Arglwydd Byron

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith nesaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 14 Tachwedd.

Teitl: “Jane Austen a'r Arglwydd Byron”

Siaradwr:  Yr Athro Caroline Franklin, Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe


Dyddiad: Iau, 14 Tachwedd 2013

Amser: 3.45pm – 5.30pm

Lleoliad:  Yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN.

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb.


Crynodeb o'r ddarlith: Daeth y par anhebyg hwn i sylw'r byd llenyddol union yr un pryd, ac roeddent yn cystadlu am yr un darllenwyr benywaidd yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Mae gwaith y ddau'n parhau i gael ei ddarllen yn eang heddiw, ac rydym yn cofio am y ddau'n eiconau cariad rhamantus. Beth oedd barn yr un am y llall? Sut oedden nhw'n trafod priodas, menywod, a rhywioldeb?