Darlith Gyhoeddus ar Ddiwinyddiaeth:“Can we know anything about the historical Jesus?”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dom Henry Wansbrough OSB yn traddodi'r ddarlith nesaf yn rhaglen 2013/14 Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd, sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl:  “Can we know anything about the historical Jesus?”

Siaradwr: Dom Henry Wansbrough OSB (Mynach Benedictaidd o Abaty Ampleforth yn Efrog; Cyn-feistr Neuadd San Benet, Rhydychen)

Dyddiad: Dydd Llun 11 Tachwedd 2013

Amser: 7.00pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday A, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb

Manylion cyswllt:  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan, Prifysgol Abertawe. Ffôn: 01792 606444 neu e-bost: n.john@abertawe.ac.uk