Cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau i Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffigyrau diwethaf UCAS yn dangos bod nifer y ceisiadau i astudio ym Mhrifysgol Abertawe o fis Medi 2013 wedi cynyddu o 18.2% ar adeg pan mae pryder yn genedlaethol bod nifer y ceisiadau’n gostwng.

Gyda chynnydd mewn 13 o 15 grwpiau pwnc, mae'r ffigyrau'n cynnwys cynnydd o 15% mewn Ieithoedd, cynnydd o 20% mewn Hanes, a chynnydd o 64% mewn Mathemateg, Cyfrifiadureg, a Pheirianneg.

Dywedodd yr Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr): "Mae'r ffigyrau hyn yn newyddion gwych i Abertawe, gan eu bod yn dangos bod myfyrwyr yn adnabod Prifysgol sydd ar i fyny. Mae'r cynnydd yn nifer y ceisiadau'n cyfiawnhau'r buddsoddiad enfawr mewn ehangu'r campws, ac yn cydnabod y gefnogaeth a gawsom oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn 2015 bydd gan y Brifysgol Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd yn ogystal â Champws Parc Singleton ar ei newydd wedd.

"Yn gyffredinol, mae bodlonrwydd y myfyrwyr wedi bod yn codi'n gyson, a'r llynedd cawsom sgôr o 87%, yn uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU, gyda 89% o fyfyrwyr yn dweud y byddent yn argymell i eraill astudio yma. Gyda thros 90% o'n myfyrwyr eisoes mewn addysg bellach neu swydd o fewn chwe mis ar ôl graddio, bydd Prifysgol Abertawe yn ceisio rhoi mantais fwy eto i'w myfyrwyr trwy'r Academi Cyflogadwyedd sydd wedi'i sefydlu'n ddiweddar, ac a lansiwyd yn 2012.

"Mae'r ffigyrau hyn yn siarad dros eu hunain, ac yn dangos bod Abertawe'n Brifysgol flaengar sy'n edrych tua'r dyfodol. Mae'r Brifysgol wedi'i chydnabod hefyd trwy'r system graddio byd eang, QS Stars, gyda 4 seren yn gyffredinol (a 5 seren am ei Haddysgu), ac rydym yn hyderus y gallwn wireddu'n huchelgais o weld Abertawe yn Brifysgol ddwys-ei-hymchwil ymhlith y 30 uchaf yn y DU erbyn 2017, cyn ein canmlwyddiant yn 2020."

Bydd UCAS yn rhyddhau'r ffigyrau terfynol am y ceisiadau ar gyfer 2013/2014 a gyflwynwyd erbyn y prif ddyddiad cau, sef 15 Ionawr, ar 30 Ionawr 2013.