Cynhadledd Ffiseg Ryngwladol i drafod y darganfyddiadau diweddaraf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cynhadledd ffiseg ryngwladol a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe yn dod รข gwyddonwyr arobryn ynghyd i drafod ymchwil a darganfyddiadau diweddar.

Bydd y gynhadledd pedwar diwrnod, Cynhadledd Ryngwladol ar Ffiseg Gwantwm, Atomig, Molecwlaidd, a Phlasma, y gynhadledd bwysicaf yn y Deyrnas Unedig ar y meysydd Ffiseg hyn, yn cychwyn ddydd Llun nesaf (9 Medi) yn y Brifysgol.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys siaradwyr o Brifysgol Ottawa, Prifysgol Aarhus, Prifysgol Innsbruck, Friedrich-Schiller-Universität Jena a GSI, Prifysgol Basel, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol y Frenhines Belffast, a Phrifysgol Rhydychen.

Yn ogystal â 25 darlith, bydd y gynhadledd yn gwrando ar 15 o siaradwyr gwadd ar ystod o bynciau gan gynnwys:-

  • Mater goroer
  • Opteg gwantwm
  • Gwybodaeth gwantwm a chyfrifiadura
  • Ffiseg plasma
  • Systemau atomig a moleciwlaidd - rhyngweithio a ffiseg
  • Ffenomenau gorgyflym
  • Metroleg
  • Ffiseg gwrthfater

Meddai'r Athro Mike Charlton: "Bydd y gynhadledd hon yn dod â ffisegwyr blaenllaw o ledled y byd ynghyd, ac i ddathlu'r digwyddiad, byddwn yn rhoi gwobr y Sefydliad Ffiseg i un o'n siaradwyr.  Bydd yr Athro Jeremy O'Brien o Brifysgol Bryste'n derbyn Gwobr Bates am ei ymchwil neilltuol ym maes opteg gwantwm arbrofol a gwyddor gwybodaeth gwantwm."