CIPHER: Gwella iechyd, lles a chyfoeth drwy Ymchwil Wybodeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi ymweld â Phrifysgol Abertawe heddiw (ddydd Llun Mehefin 10), i agor yn swyddogol y Ganolfan Gwella Iechyd y Boblogaeth trwy Ymchwilio Cofnodion Electronig (CIPHER) newydd gwerth £4.3 miliwn, mewn digwyddiad o'r enw 'Gwella Iechyd, Lles a Chyfoeth drwy Ymchwil Wybodeg'.

CIPHERMae'r ganolfan, a arweinir gan yr Athro Ronan Lyons a'r Athro David Ford o Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol, yn y Coleg Meddygaeth, yn un o bedair canolfan sy'n ffurfio Health e-Research Collaboration UK (HeRC UK) - rhwydwaith o Ganolfannau Rhagoriaeth mewn ymchwil cofnodion iechyd electronig, a ariannir gan fuddsoddiad o £19 miliwn gan gonsortiwm a arweinir gan y Cyngor Ymchwil Meddygol o 10 ariannwr o Lywodraeth y DU ac elusennau.

Y weledigaeth y tu ôl i HeRC UK - sydd â chanolfannau yn Dundee, Llundain, Manceinion ac Abertawe - yw harneisio data iechyd y DU er budd i gleifion a'r cyhoedd ac mae gan y cydweithrediad nifer o amcanion mewn perthynas ag ymchwil wyddonol, datblygiad methodolegol, adeiladu cynhwysedd, ymgysylltu â'r cyhoedd, rheoli ac arloesi diwydiannol.

Mae dealltwriaeth gyhoeddus o bwysigrwydd defnyddio data iechyd ar gyfer ymchwil yn hanfodol o safbwynt datblygu'r gwaith o ganfod cyffuriau a gwella gofal a roddir i gleifion. Bydd gan y pedair Canolfan Ragoriaeth newydd rôl weithgar wrth ymgysylltu â'r cyhoedd i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o fuddion ddiogelu preifatrwydd ymchwil cofnodion e-iechyd, a byddant hefyd yn gweithredu fel man cyswllt hanfodol ar gyfer diwydiant, y GIG a gwneuthurwyr polisi.

Meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae gan Dechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaeth gwell i gleifion. Bydd y ganolfan newydd hon, drwy gysylltu cofnodion e-iechyd â mathau eraill o ymchwil a data a gesglir yn rheolaidd, o fudd i gleifion gan y bydd y data'n cael ei ddefnyddio i adnabod triniaethau sy'n fwy effeithiol ac i astudio achosion afiechydon ac anabledd."

Meddai'r Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr CIPHER: "Roedd yn bleser gennym groesawu'r Prif Weinidog i agor yn swyddogol y ganolfan ryngwladol hon gwerth £4.3 miliwn ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnwys ymchwilwyr o 10 prifysgol ar draws y DU, Awstralia, Canada a Sgandinafia.

"Mae CIPHER wedi'i dylunio i ymgymryd ag ymchwil sy'n lleihau'n sylweddol yr amser y mae'n ei gymryd cyn bod darganfyddiadau newydd yn effeithio ar fywydau pobl. Trwy gyfuno data clinigol, cymdeithasol ac ymchwil, mae ymchwilwyr yn ceisio adnabod rhagor o driniaethau effeithiol, gwella diogelwch cyffuriau, asesu peryglon i iechyd cyhoeddus ac astudio achosion afiechydon ac anabledd."

Ychwanegodd yr Athro David Ford, Dirprwy Gyfarwyddwr CIPHER: "Bydd CIPHER yn canolbwyntio ar ymchwil i archwilio'r pynciau pwysig sy'n gosod baich mawr ar boblogaeth y byd a'r DU megis anafiadau, heintiau, defnyddio sylweddau, problemau seicolegol, gordewdra, arthritis, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser.

"Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol wrthi'n creu Sefydliad Ymchwil Gwybodeg Iechyd Farr i fanteisio ar arbenigedd y Canolfannau ac i annog cydweithio ehangach rhwng ymchwilwyr y DU ac ymchwilwyr rhyngwladol.

"Bydd Sefydliad Farr hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfaol a hyfforddiant i gynyddu cynhwysedd a gallu'r DU mewn ymchwil gan ddefnyddio cofnodion iechyd. Bydd CIPHER yn gweithio'n agos gyda'r GIG i sicrhau bod buddion i'r GIG ac i gleifion yn cael eu gwireddu'n gyflym."