Caffi Gwyddoniaeth Mis Ionawr: ‘Pethau sy’n gwneud twrw gefn nos’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe’n cynnig cyfleoedd i unrhyw un sydd am wybod mwy am feysydd newydd, cyffrous a dadleuol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.

Teitl: `Things that go bump in the night'; Approaches for getting a grip on enigmatic animals

Siaradwr: Yr Athro Rory Wilson (Prifysgol Abertawe)

Dyddiad: Dydd Mercher 30 Ionawr 2013 

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Crynodeb: Mae’n adnabyddus bod morfilod gwynion yn plymio i hyd at filltir o dan y dŵr, yn fwy na thebyg i chwilio am fwyd yn y dyfnderoedd tywyll lle nad ydym yn gallu eu gweld neu hyd yn oed eu dilyn. A dweud y gwir, nid oes modd gweld y rhan fwyaf o anifeiliaid rhan fwyaf o’r amser felly a ydyw’n afreal credu bod gennym dealltwriaeth da o’r anifeiliaid mwyaf gweladwy hyd yn oed?

Efallai na! Mae dull gymharol newydd o ddeall anifeiliaid gwyllt yn defnyddio tagiau soffistigedig i gofnodi’r hyn y mae anifeiliaid yn ei wneud ble bynnag y maent. Mae dyddiaduron hunan ysgrifennu, a atodir i anifeiliaid yn ein darparu â chroniclau o weithgareddau anifeiliaid yn amrywio o ‘siarcod helter-skelter’ i ‘eliffantod isel eu hysbryd’ i ‘albatros yn troelli’. Bydd Rory Wilson, sydd wedi bod yn tagio anifeiliaid am mwy na 30 mlynedd yn esbonio popeth.

Am ragor o wybodaeth http://www.swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/

Ynglŷn â Chaffi Gwyddoniaeth Cymru: Bob mis, bydd arbenigwr blaenllaw yn ei faes/maes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer ac yna sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio â diod a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl. Mae trefnwyr y Caffi Gwyddoniaeth yn ymrwymedig i hyrwyddo cysylltiad y cyhoedd â gwyddoniaeth a gwneud gwyddoniaeth yn atebol.

Cynhelir digwyddiadau Caffi Gwyddoniaeth Cymru mewn gosodiadau hamddenol yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor. Maen nhw’n anffurfiol ac yn agored i bawb ac mae mynediad am ddim. Maen nhw fel arfer yn cychwyn â sgwrs fer gan y siaradwr, gwyddonydd neu awdur gan amlaf, wedi’i dilyn gan egwyl gyflym a rhyw awr o drafod wedi hynny.

Mae testunau blaenorol wedi cynnwys mater tywyll, yr annwyd cyffredin, Dr Who, y Glec Fawr a therapïau amgen.

Cafodd y  Cafes Scientifiques cyntaf yn y DU eu cynnal yn Leeds ym 1998. O hynny allan mae’r caffis wedi lledaenu’n raddol ar draws y wlad.

Ar hyn o bryd mae rhyw 40 caffi yn cwrdd yn rheolaidd i glywed gwyddonwyr neu awduron yn siarad am eu gwaith ac yn ei drafod â chynulleidfaoedd amrywiol.