Caffi Gwyddoniaeth Mis Hydref: Nanotechnoleg: ydyn ni wedi cyrraedd 'to?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n gyfle i bawb gael gwybod mwy am feysydd newydd, cyffrous, a chyfredol yn y byd gwyddoniaeth mewn modd anffurfiol a difyr.

Teitl: Nanotechnoleg: ydyn ni wedi cyrraedd 'to?

Siaradwr: Dr Richard Cobley o Brifysgol Abertawe

 Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Hydref 2013.  Mae hyn yn wahanol i'r dyddiad arferol, sef dydd Mercher olaf y mis.

Amser:  7:30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Yn rhad ac am ddim, croeso i bawb


Crynodeb hirach: Yn y ddarlith hon, a drefnwyd ar y cyd â'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol, bydd Dr Richard Cobley'n trafod nanotechnoleg, gwyddor y byd bach iawn.

Trafodir Nanotechnoleg fel technoleg wyrthiol sydd ar fin achub y byd, a hefyd fel testun hunllef ffuglen wyddonol. Ond beth yw hi, o le daeth hi, a phaham ydy hi'n bodoli'n faes gwyddoniaeth a pheirianneg unigryw?

Bydd y ddarlith hon yn defnyddio ymagwedd annhechnegol i ateb y cwestiynau hyn, yn sôn am ragfynegiadau anghywir y gorffennol, yn defnyddio ambell i arddangosiad byw, ac yn y diwedd, yn ateb y cwestiwn pwysicaf oll: ydyn ni wedi cyrraedd 'to?

Manylion cyswllt: http://swansea.ac.uk/science/swanseasciencecafe/