Arbenigwyr lleol yn dewis enwau ar gyfer Campws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi dadorchuddio map o'i champws newydd yn y Bae, sy'n dangos yr adeiladau, y ffyrdd, a'r lleoedd sydd ar gael i'r Brifysgol ac i'r cyhoedd.

Dewiswyd grŵp bach o arbenigwyr i helpu i ddewis yr enwau newydd. Y rhain oedd:

Campus map

  • Prys Morgan, Hanesydd, sy'n Athro Emeritws y Brifysgol ac yn Llywydd ar Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
  • David Herbert, Daearyddwr, sydd hefyd yn Athro Emeritws Abertawe, ac a fu'n Brif Ddirprwy Is-ganghellor tan iddo ymddeol yn 2003. 
  • Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, canolfan rhagoriaeth y Brifysgol ar gyfer astudio'r Gymraeg.
  • Josh Hayman, cyn-fyfyriwr o'r Brifysgol a fu hefyd yn Swyddog Cymdeithas a Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr. 

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor Iwan Davies, cyfarwyddwr rhaglen datblygu campws y Brifysgol: "Mae Campws y Bae mewn lleoliad delfrydol ar y bae, rhwng yr afonydd Afan a Thywi lle maen nhw'n llifo i'r môr; mae'r ardal gyfan wedi bod o bwys mawr o ran hwyluso llif cyfoeth enfawr trwy'r rhanbarth. 

"Roeddem am gofleidio pwysigrwydd yr afonydd lleol hyn, a'u cydnabod wrth enwi'r ffyrdd ar y campws.  Rydym yn rhagweld y bydd y campws hwn, yn ei dro, yn dod â manteision economaidd enfawr i ranbarth Bae Abertawe."

Ar ben hynny, bydd nifer o sgwariau (Gŵyr, Tennant, a Margam), promenâd glan y môr, a gwylfan a elwir yn Drwyn y Garreg Ddu.  Roedd yr Athro Prys Morgan wedi nodi pwysigrwydd y trwyn hwn, o fap a luniwyd ym 1799, yn "un o'r ffiniau hynaf yng Nghymru, sef y ffin rhwng Esgobaeth Tyddewi ac Esgobaeth Llandâf - mae Campws y Bae, felly, yn sefyll yn y man lle mae Gorllewin Cymru a Dwyrain Cymru'n cyffwrdd."

Dywedodd yr Athro David Herbert: "Mae Llys Tennant yn cyfuno tair elfen o ddatblygiad Rhanbarth Abertawe. Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd George Tennant, diwydiannwr a ddaeth i'r ardal ym 1815 ac a gwblhaodd gamlas Tennant, dolen allweddol yn system fordwyo'r 19eg ganrif; a Phort Tennant, oedd wedi'i gysylltu â datblygiad y dociau'n wreiddiol, ac sydd bellach yn ardal o fewn Abertawe cyfoes, sy'n agos at Gampws y Bae."

Mae gwaith adeiladu eisoes ar y gweill ar y safle 65 erw oddi ar Ffordd Fabian, a bydd Campws y Bae'n agor i fyfyrwyr ym mis Medi 2015. 

Llun: Alison Parker, Professor Prys Morgan, Josh Hayman, Dr Gwenno Francon & Professor David Herbert