Ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn Cael eu Derbyn i Academi Ryngwladol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi’u derbyn i Academi Thrombosis Arbenigol, academi ryngwladol newydd sbon sy’n gobeithio rhannu gwybodaeth ryngddisgyblaethol wyddonol ym maes thrombosis a gwaed atalfa.

SophieaNia

Mae Sophie Stanford a Nia Davies yn ymchwilwyr yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn gweithio yn uned ymchwil ceulo gwaed Uned Ddamweiniau Brys Ysbyty Treforys.

Mae Sophie yn wyddonydd biofeddygol ac yn ymchwilio i effeithiau afiechydon gerebrofasgiwlar (cyflwr sy’n effeithio llestrau gwaed yn yr ymennydd) a’r modd mae triniaeth yn effeithio ceulo’r gwaed.

Mae Nia yn Gymrawd Ymchwil Ôl-Ddoethurol ac yn astudio effaith llid ar geulo’r gwaed mewn cleifion sydd â chanser yr ysgyfaint a gastroberfeddol uwch.

Mae’r ddwy yn gweithio o dan oruchwyliaeth yr Athro Adrian Evans, Darllenydd mewn Meddygaeth Brys yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac Ymgynghorydd yn yr un maes yn Ysbyty Treforys.

Meddai’r Athro Adrian Evans: ‘‘Mae hwn yn newyddion gwych a hoffwn longyfarch y ddwy ar gael eu derbyn i’r academi hynod gystadleuol hon.

‘‘Bydd cael eu hethol i’r grŵp, lle byddant yn dod ar draws arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn gwella eu sgiliau a gwybodaeth fydd o fudd hir dymor i’n rhaglenni ymchwil yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ac Ysbyty Treforys.’’