Ymchwilwyr IMPACT yn gwaredu’r gwybed

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o wyddonwyr Cymru’n gweithio fel lladd nadroedd i ganfod ateb i fygythiad angheuol afiechyd Schmallenburg - y firws sy’n achosi erthyliadau a namau geni mewn defaid.

Hyd yma, does yr un achos o’r afiechyd newydd yng Nghymru. Credir ei fod yn cael ei gario gan wybed (Culicoides) i’r DU o dir mawr Ewrop.

Ac mae ymchwilwyr prosiect Rheolaeth Integredig o Bla Coedwig yn Ateb Tueddiadau Hinsawdd (IMPACT) yn Aberystwyth ac Abertawe yn gobeithio y bydd eu gwaith diweddaraf ar reoli gwybed yn arwain at leihau nifer y pryfed bach iawn sy’n brathu, ac felly’n lleihau’r posibilrwydd o ledaenu’r afiechyd.

Maen nhw’n ymchwilio i ffyrdd naturiol newydd o reoli’r gwybed - a oedd hefyd yn achosi'r afiechyd tafod glas mewn rhai ardaloedd o Loegr.

Mae’r prosiect IMPACT yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG IVA) COFORD a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae Prifysgol Abertawe, partner prosiect IMPACT, newydd gyhoeddi’i ganfyddiadau diweddaraf ar y gwaith, sy’n edrych ar ddefnyddio ffwng - Metarhizium anisopliae – i reoli’r gwybed sy’n brathu. Mae poblogaethau’r gwybed yn gallu cynyddu gyda newid hinsawdd.

Eisoes, ystyrir brechu defaid a gwartheg fel ateb i’r afiechyd newydd, ond gallai gymryd blynyddoedd i’w ddatblygu. “Gallai ffyrdd newydd o reoli poblogaeth y gwybed, y credir sy’n cario’r firws rhwng anifeiliaid, leihau’r risg yn sylweddol,” meddai’r Athro Tariq Butt, y mae’i waith yn Abertawe’n rhan bwysig o Brosiect IMPACT.

“Mae’r mesurau rheoli presennol yn dibynnu ar blaladdwyr synthetig, sy’n beryglus i ddynion ac i’r amgylchedd, ond nid y rhai amgen, naturiol. Gyda darogan y bydd newid hinsawdd yn achosi tywydd cynhesach, gwlypach a hynny’n cynyddu poblogaethau’r gwybed, gallai’r dewisiadau naturiol fod yn ddefnyddiol iawn i leihau’u niferoedd.”

Roedd y t¿m ymchwil eisoes yn gwybod fod y ffwng entomopathogenig - llad pryfed - yn gallu lladd larfae’r gwybedyn, Culicoides nubeculosus, ac y gellid, felly, ddefnyddio llai o blaladdwyr cemegol niweidiol.

Dangosodd gwaith yn y labordai yn Abertawe y gellid defnyddio rhywogaeth V275 o'r ffwng mewn rhaglenni rheoli gan ei fod hefyd yn lladd oedolion y gwybed, gyda rhai profion yn y labordy'n dangos 100 y cant o lwyddiant o fewn pum diwrnod.

“Nawr, rydym yn edrych ar ffyrdd doeth o ddefnyddio’r ffwng, yn profi gwahanol bethau i ddenu oedolion y gwybed at abwyd wedi’i lygru gan sborau’r ffwng, a fydd yn lladd y nifer mwyaf o wybed gyda’r lleiaf posibl o’r , ffwng a bod yn sicr mai dim ond y rhywogaethau hynny o wybed sy’n cael eu targedu," meddai’r Athro Tariq Butt.

Mae’r t¿m IMPACT, sy’n gynnwys arbenigwyr o Ymchwil Coedwig Cymru, Prifysgol Genedlaethol yr Iwerddon, Maynooth a Phrifysgol Abertawe'n chwilio am safleoedd i gynnal cyfres o dreialon maes.

Mae’r t¿m prosiect yn ymchwilio i ffyrdd newydd o daclo amrywiaeth eang o bla pwysig sy’n gallu cael effaith ddramatig ar goedwigoedd a choetiroedd ledled y DU a’r Iwerddon.

“Mae eithafion cynyddol ein tywydd - tymheredd poeth neu oer, cynnydd mewn glaw a llifogydd - yn creu’r amodau delfrydol i bla mewn coedwigoedd,” meddai’r Athro Hugh Evans o Ymchwil Coedwig Cymru, arweinydd prosiect IMPACT.

“Mae Schmallenburg yn enghraifft glasurol o’r rhyngweithio rhwng yr hinsawdd ac ymddangosiad afiechydon mewn ardaloedd newydd,” meddai.

“Hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif, roedd prif afiechydon firws mewn anifeiliaid yn Ewrop yn tueddu i’w canfod mewn gwledydd deheuol, ond maen nhw’n dechrau ymddangos yng ngogledd Ewrop wrth i’r tywydd gynhesu a hynny’n galluogi’r gwybed i ymestyn at y gogledd.

“Er enghraifft, mae’n ymddangos mai newid hinsawdd sy’n gyfrifol am ymddangosiad y firws tafod glas ym Mhrydain, sy’n cael ei gario gan wybed."