Y Coleg Gwyddoniaeth: pum ysgoloriaeth lawn-amser i fyfyrwyr ôl-raddedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi pum ysgoloriaeth lawn-amser i fyfyrwyr ôl-raddedig, yn para hyd at dair blynedd, a fydd yn galluogi myfyrwyr ymchwil llawn-amser i weithio tuag at ddyfarniad gradd PhD.

Mae’r dyfarniadau’n gysylltiedig â’r prosiectau canlynol: 

Ym maes Datblygu Technegau Dadansoddi Delweddau ar Gyfer Cymwysterau Meddygol, ceir tair ysgoloriaeth. 

Mae’r prosiectau’n cynnwys:

Dadansoddi Delweddau a Modelu Meddygol: Meintoli Amlfodd Ailchwydiad y Galon Ddynol, ar gyfer PhD mewn Cyfrifiadureg dan oruchwyliaeth Dr Xianghua (Jason) Xie.

Astudiaeth sbectrosgopeg Raman o waed ar gyfer diagnosisau o afiechyd, prognosis a rhagfynegi risgiau, ar gyfer PhD mewn Ffiseg dan oruchwyliaeth Dr Peter Dunstan, mewn cydweithrediad â Dr Cathy Thornton o’r Coleg Meddygaeth.

Dylunio a Gwerthuso Meddalwedd Generig Delweddu Sain EEG, ar gyfer PhD mewn Cyfrifiadureg dan oruchwyliaeth Dr Parisa Eslambolchilar.

Optimeiddio dilyniant curiad mewn delweddu cyseinedd magnetig wrth ddatgelu a gwneud diagnosisau ynghylch tyfiant celloedd afreolaidd, ar gyfer PhD mewn Ffiseg dan oruchwyliaeth Dr Sophie Schirmer, mewn cydweithrediad â Dr Niall Colgan o’r Coleg Meddygaeth.

Dulliau geometrig newydd ar gyfer echdynnu nodweddion o ddelweddau meddygol, ar gyfer PhD mewn Mathemateg dan oruchwyliaeth Dr Elaine Crooks, mewn cydweithrediad â Dr Richard Hugtenburg o’r Coleg Meddygaeth.

Un ysgoloriaeth ryngddisgyblaethol o fewn Tîm Ymchwil Anifeiliaid Symudol Abertawe (SMART):

Urdd anifeiliaid o systemau hap, ar gyfer PhD mewn Mathematics dan oruchwyliaeth yr Athro Niels Jacob, yr Adran Fathemateg a’r Athro Rory Wilson, yr Adran Biowyddoniaeth.

Un ysgoloriaeth ryngddisgyblaethol o fewn Grwp Rhewlifeg y Coleg Gwyddoniaeth a’r Coleg Peirianneg:

Modelu cylchrediad o fewn ffiordau yn ne-ddwyrain yr Ynys Las: Goblygiadau ar gyfer rhagfynegiadau codiad yn lefel y môr o Len Iâ'r Ynys Las, ar gyfer PhD mewn Daearyddiaeth dan oruchwyliaeth yr Athro Tavi Murray a Dr Ian Rutt, Grwp Rhewlifeg, yr Adran Ddaearyddiaeth a Dr Harshinie Karunarathna a’r Athro Dominic Reeve, y Coleg Peirianneg.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau ar wefan y Coleg Gwyddoniaeth yn http://www.swansea.ac.uk/science/postgraduatescholarships/


Mae’r eitem newyddion hon ar ran y Coleg Gwyddoniaeth wedi’i phostio gan Bethan Evans, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049, e-bost: b.w.evans@abertawe.ac.uk.