Tîm Prifysgol Abertawe’n ennill gwobr genedlaethol freintiedig arall ar gyfer AD

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill y wobr ar gyfer Tîm Adnoddau Dynol Eithriadol yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheoli blynyddol Times Higher Education, wedi iddynt ennill gwobr arall yn ddiweddar.

Gwyliodd dros 800 o bobl eu buddugoliaeth mewn seremoni yn Llundain, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch, i ddathlu llwyddiant y sector.
 
Yn ôl y beirniaid, dangosodd tîm Abertawe dystiolaeth o welliant sylweddol, a gwnaeth eu dull systematig ynghyd â datblygiad fframwaith arloesol ar gyfer gwneud cyfathrebu’n haws ac yn fwy effeithlon greu argraff ar y beirniaid.

Yn eu pedwaredd flynedd bellach, mae’r dyfarniadau’n uchafbwynt i’r calendr academaidd a’u nod yw dathlu sgiliau arweinyddiaeth, rheoli, ariannol a busnes y sector. Maen nhw’n arddangos menter, gwaith tîm a chraffter masnachol anhygoel sefydliadau addysg uwch y DU.

Meddai David Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe:
“Rydym wrth ein boddau gyda’r wobr hon, yn arbennig mor fuan ar ol y wobr arall.  Mae’n destun gwirioneddol nid yn unig i Dîm AD Abertawe ond hefyd i bawb ar draws y Brifysgol sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn.”

Meddai John Gill, golygydd Times Higher Education: “Dylai’r sector gymryd sicrwydd o’r enghreifftiau anhygoel o greadigrwydd, ymrwymiad a gwaith caled pur y mae beirniaid y gwobrau wedi’u cydnabod.”