Prifysgol Abertawe’n Rhagori yn Nhablau Cynghrair y Byd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynyddu ei safle mewn tabl cynghrair adnabyddus ar gyfer y 500 Prifysgol gorau yn y byd.

Yn nhabl y Cynghrair Academaidd o Brifysgolion y Byd (ARWU) 2012 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Prifysgol Abertawe wedi’i graddio’n 34-38 ar y cyd allan o’r 170 Sefydliad Addysg Uwch yn y DU.

Bu ARWU yn cyhoeddi cynghrair y 500 prifysgol gorau yn y byd bob blwyddyn ers 2003 yn seiliedig ar gyfres o fesuryddion gwrthrychol a data trydydd parti. Mae ARWU wedi’i chydnabod fel y gynghrair fwyaf adnabyddus a dylanwadol ar gyfer graddio Prifysgolion yn fyd-eang (o’r Chronicle of Higher Education http://chronicle.com/article/International-Group-Announces/124882)

Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi’i graddio fel un o 25 prifysgol gorau’r DU unwaith eto yn arolwg Addysg Uwch 2012 y Times a chododd 11 safle yn The Complete University Guide 2013.

Meddai’r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer profiad myfyrwyr:

“Mae Abertawe’n lle gwych i astudio ac mae myfyrwyr sy’n dod yma’n dod yn rhan o sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil sydd ag addysgu o’r ansawdd uchaf. Mae Abertawe hefyd yn ddinas fywiog i fyfyrwyr, a chanddi ddiwylliant a bywyd chwaraeon sy’n ffynnu, gyda’r ddinas a’r wlad gerllaw a lleoliad ar lan y môr.

“Rydym wedi gweld cynnydd yn ansawdd y myfyrwyr sy’n dod yma a chynnydd hefyd yn y rhai hynny sy’n mynd ymlaen i ragori yn eu hastudiaethau a derbyn canlyniadau ardderchog wrth gwblhau eu cwrs. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yng nghyflogadwyedd ein graddedigion.

“Mae’r gwelliant hwn yn ein safle yn nhabl y gynghrair hefyd yn fesur o’n perfformiad a rhagoriaeth y profiad yr ydym yn ei darparu i’n myfyrwyr. Rhywbeth yr ydym i gyd yn falch iawn ohono yma yn Abertawe.”