Prifysgol Abertawe’n Cryfhau ei Chysylltiad â Tsieina

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Gwener, Medi 15, daeth cynrychiolwyr o lysgenhadaeth Tsieina i Brifysgol Abertawe er mwyn trafod ffyrdd y gellir cryfhau’r cyswllt presennol rhwng y Brifysgol a Tsieina yn ogystal â thrafod ffyrdd o gydweithio yn y dyfodol. Cawsant eu gwahodd gan Dr Weixi Xing, Cyfarwyddwr Canolfan Tsieina, Adran Ymchwil ac Arloesi y Brifysgol.

Daeth y Gweinidog Addysg, Mr Shen Yang a’i gydweithwyr Mr Qiao Fenghe a Miss Cai Hong i ymweld â sawl adran ar gampws y Brifysgol.

Chinesedelegation

Aethant i ymweld â Chanolfan NanoIechyd y Brifysgol yn ogystal â Sefydliad y Gwyddorau Iechyd. Cawsant hefyd gyfle i weld y Ganolfan Argraffu Gymreig, gaiff ei hystyried yn un o’r rhai gorau yn y maes.

Yn ychwanegol, aethant i weld Technium Digidol y Brifysgol, canolfan arloesi sy’n cynnig cymorth i gwmnïau rhyngwladol sy’n ceisio ennill eu plwyf ym marchnad y DU.

Cawsant gyfle i gwrdd ag Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies yn ogystal â’r Athro Steve Conlan, Cyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd a Phennaeth yr Ysgol Wyddoniaeth, yr Athro Steve Wilks.

Meddai Dr Weixi Xing, Cyfarwyddwr Canolfan Tsieina, Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe: ‘‘Roedd croesawu llysgenhadaeth Tsieina i’r Brifysgol yn bleser. Roedd yr ymweliad yn llwyddiant ysgubol ac fe wnaeth ein galluogi i adnabod cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.’’

Llun: Yr Athro Steve Wilks, Mr Qiao Fenghe, Mr Shen Yang, Yr Athro Richard B Davies, Yr Athro Steve Conlan a Miss Cai Hong