Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Soochow yn arwyddo cytundeb i gydweithio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe wedi ymestyn ei chysylltiadau i dref Suzhouyn Tsieina; tref a adnabyddir fel cartref Parc Technoleg a Gwyddoniaeth Nano.

Daeth Llywydd Prifysgol Soochow, yr Athro Xiulin Zhu a’i gydweithwyr draw i Brifysgol Abertawe yn ddiweddar. Cawsant eu gwahodd gan Dr Weixi Xing, Cyfarwyddwr Canolfan Tsieina, Adran Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe.

Soochow visit

Aethpwyd ag Athro Xiulin Zhu a’i gydweithwyr ar daith o amgylch canolfan newydd NanoIechyd Prifysgol Abertawe. Cawsant gyfle i gyfarfod Dr Steve Conlan, Cyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd, yr Athro Steve Wilks, Pennaeth yr Ysgol Wyddoniaeth yn ogystal ag un o ddarlithwyr y Coleg Meddygaeth, Dr Zhidao Xia.

Yn ystod y cyfarfod, mi wnaethant drafod posibiliadau megis cydweithio ym maes ymchwil yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr ddilyn cynlluniau cyfnewid fyddai’n eu galluogi i astudio NanoIechyd dramor.

Mi wnaeth Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies a’r Athro Xiulin Zhu o Brifysgol Soochow arwyddo cytundeb oedd yn amlinellu bwriad y ddwy Brifysgol i gydweithio’n strategol yn y dyfodol.

Meddai Llywydd Prifysgol Soochow, Xiulin Zhu: ‘‘Mi wnes i fwynhau cyfarfod staff Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe. Rwyf wedi dod o hyd i sawl dull o gryfhau ein perthynas â Phrifysgol Abertawe ym meysydd NanoIechyd a Pheirianneg.’’

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: ‘‘Roedd yn bleser gallu croesawu’r Athro Xiulin Zhu a’i gydweithwyr i Brifysgol Abertawe. Caiff Prifysgol Soochow ei hystyried yn ganolfan addysg uwch o’r radd flaenaf ac mae ganddi gryfderau tebyg i Brifysgol Abertawe ym maes ymchwil. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i ni adnabod cyfleoedd i gydweithio ac rwy’n mawr obeithio mai dyma ddechrau perthynas lewyrchus a hir dymor rhwng y ddau sefydliad.’’

Mae’r Athro Steve Wilks a Dr Steve Conlan yn gobeithio ymweld â Phrifysgol Soochowfis Ebrill. Yn ystod eu taith, byddant yn mynd i weld Biobay, canolfan wyddoniaeth a thechnoleg arloesol i’r diwydiannau technoleg nano.