Penodi llysgennad dros ddysgu Cymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd llysgennad cyntaf dros ddysgu Cymraeg De-orllewin Cymru yn cael ei chyflwyno mewn derbyniad arbennig ar stondin Prifysgol Abertawe ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar 4 Awst 2012 am 3yp.

Bydd Sue Carey o Drefdraeth yn cael ei chyflwyno gan Archdderwydd newydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dr Christine James, a hynny am dri o’r gloch ar y prynhawn Sadwrn.

SueCarey

Dyma’r ail anrhydedd i Sue ei derbyn wedi iddi ennill gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Sir Benfro 2012 yn gynharach eleni. Derbyniodd y wobr mewn seremoni yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol y Preseli, Crymych.

Jane Davidson, y cyn-Wenidog Addysg a’r Amgylchedd sydd wedi dysgu Cymraeg ac ymgartrefu yn Sir Benfro wnaeth gyflwyno’r wobr. Llongyfarchodd Sue ar ei llwyddiant ac am fod yn esiampl i bawb i ddyfalbarhau ac i fwynhau’r profiad o ddysgu Cymraeg.

Fel rhan o’i swydd wirfoddol newydd bydd Sue yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru sy’n rhan o Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Sue Carey: ‘‘Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y gwaith dros y flwyddyn nesaf. Dw i’n bwriadu cwrdd â dysgwyr eraill ac awgrymu beth gallan nhw’i wneud er mwyn dysgu Cymraeg hyd orau eu gallu. Does dim ateb syml ond cadw i ddysgu sy’n bwysig a pheidio rhoi’r ffidil yn y to pan mae’n teimlo’n anodd.’’

Ychwanegodd Aled Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De-orllewin Cymru, Prifysgol Abertawe:  “Rwy’n falch iawn bod Sue wedi cytuno i fod yn llysgennad dros y flwyddyn nesaf. Bydd dysgwyr ar hyd a lled y De-Orllewin yn sicr o elwa o gael arweiniad gan un sydd wedi llwyddo i dorri trwodd a dod yn siaradwraig Gymraeg. Bydd ei dyfalbarhad a’i pharodrwydd i ddefnyddio’i Chymraeg ar bob cyfle yn ysbrydoliaeth i bawb.” 

 Dilynwch ni ar Twitter: http://twitter.com/#!/Prif_Abertawe  

 Dewch o hyd i ni ar Facebook: http://www.facebook.com/#!/prifysgol.abertawe