O Abertawe i Olygu Argradffiad Newydd o Waith Dylan Thomas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr John Goodby o Brifysgol Abertawe yn golygu argraffiad newydd o Holl Gerddi Dylan Thomas.

Mae Dr John Goodby, Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wedi ennill dyfarniad yn ddiweddar i gwblhau argraffiad newydd o holl gerddi Dylan Thomas, i'w gyhoeddi yn 2014, canmlwyddiant geni'r bardd.

Bydd Cymrodoriaeth fawreddog yr AHRC, sy'n werth £86,000, yn galluogi Dr Goodby i ymweld â llefydd sy'n cadw llawysgrifau Dylan Thomas, gan gynnwys llyfrgelloedd prifysgolion yn yr UDA megis Buffalo, Efrog Newydd ac Austin, Tecsas ymhlith eraill.

Hefyd, mae Dr Goodby, sy'n arbenigwr rhyngwladol ar y bardd, yn cyhoeddi'r astudiaeth lawn gyntaf ar farddoniaeth Thomas ers y 1960au. Caiff The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2013 gan Wasg Prifysgol Lerpwl.

Mae'r ddau lyfr yn ceisio ail-ddehongli Dylan Thomas yng nghyd-destun blynyddoedd cynnar y 21ain ganrif. Yn wahanol i'r 91 o gerddi oedd yn yr argraffiad diwethaf, bydd yr argraffiad newydd yn cynnwys dros 200 o gerddi. Hefyd, bydd yr argraffiad newydd yn trefnu'r cerddi yn ôl dyddiad eu cyfansoddi, fydd yn galluogi darllenwyr i olrhain datblygiad Thomas.

Meddai Dr Goodby: "Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ddarllenydd sy'n dymuno darllen holl gerddi Thomas fynd at o leiaf chwe llyfr gwahanol; bydd f'argraffiad newydd yn casglu'r cerddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, neu sy'n ymddangos yn ei lythyrau neu ei straeon byr, yn ogystal â'r sgript ffilm mewn barddoniaeth, Our Country, a dod â nhw at ei gilydd mewn un gyfrol am y tro cyntaf.

"Mae Dylan Thomas yn fardd sy'n siarad â'r presennol mewn modd byw, yn goleuo barddoniaeth gyfoes y brif ffrwd yn ogystal â barddoniaeth avant-garde. Er bod rhai beirniaid llenyddol wedi tueddu i fwrw hyn i'r cysgod yn ystod y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf - esgeulusir Thomas yn y byd academaidd ar hyn o bryd - mae Thomas bob amser wedi bod yn fardd pwysig i'r cyhoedd. Mae ei statws unigryw, yn eicon diwylliannol, yn rhan o'r hyn sydd o ddiddordeb i mi. Cafodd barddoniaeth Thomas ei chyfieithu'n fwy na gwaith unrhyw fardd Saesneg arall o'r ugeinfed ganrif ac eithrio T.S. Eliot, ac mae cymdeithasau Dylan Thomas yn ffynnu mor bell i ffwrdd â'r UDA, Canada, Siapan, Gwlad Pwyl, ac Awstralia."

Roedd rhagfynegiad Thomas o beryglon enwogrwydd, wrth iddo farw'n gynnar, yn rhan o'r hyn a'i gwnaeth yn ffefryn i Bill Clinton a Jimmy Carter, cyn Arlywyddion yr UDA, ac i sêr ffilm a roc megis Cerys Matthews a George Clooney (sy'n adrodd 'And Death Shall Have No Dominion' yn llawn yn ei ffilm Solaris). Mae'n arwyddocaol mai efe oedd y bardd cyntaf i weithio yn holl gyfryngau darlledu a recordio ei oes - radio, ffilm, LP, a theledu - ac mae ei statws unigryw, yn fardd anodd sydd, serch hynny, yn apelio i'r werin a'r miloedd wedi'i wneud yn eicon diwylliannol bythol.

Meddai Dr Goodby, "Mae'r statws hwnnw'n gorwedd ar sylfeini cadarn barddoniaeth sy'n pwysleisio ein bodolaeth gorfforol, natur faterol iaith, a phwysigrwydd chwarae wrth ryddhau'r dychymyg - rhinweddau a'i galluogodd i alw ar wreiddiau hynaf barddoniaeth, ac i ragweld ein hoes electronig."

Dywedodd yr Athro Chris Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, "Mae 2014 yn siwr o fod yn flwyddyn o drin a thrafod bywyd, gwaith, ac etifeddiaeth Dylan Thomas. Mae cyfrol newydd John Goodby'n siwr o adfywio ac ailgyfeirio ein teimladau a'n barn am un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif."