Myfyriwr Gradd Ran-amser Mark yn ennill ail Wobr i Ddysgwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliodd Grwp Gwyl Ddysgu Sir Gaerfyrddin eu Digwyddiad Gwobrau Tiwtoriaid a Dysgwyr blynyddol neithiwr (dydd Iau, Mehefin 7) ym Mharc y Scarlets, Llanelli. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddysgwyr a thiwtoriaid ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion a dangos eu hymrwymiad i ddysgu.

Mark Hall

Enillodd Mark Hall, o Landybie, sy’n astudio’n rhan-amser am ei radd BA mewn Hanes drwy Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe yn Llanelli a Chastell-nedd, Wobr i Ddysgwyr.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant Mark o gael ei enwi’n Ddysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Dysgwyr Oedolion Castell-nedd a Phort Talbot yn ddiweddar.

Daeth Mark yn fyfyriwr yn gyntaf pan ddechreuodd gwrs iaith Cymraeg ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2005 i ofalu am ei fam. Gwnaeth yr ysbrydoliaeth a’r cymorth a gafodd Mark gan diwtoriaid ei annog i fanteisio ar y cyfle i wella ei gymwysterau.

Cyn hir cofrestrodd Mark ar gyfer y radd ran-amser yn y Dyniaethau a ddarparwyd drwy AABO. Yn ogystal ag ymgymryd â’i astudiaethau gradd, mae Mark yn gofalu am ei wraig ac mae’n rhaid iddo gydlynu trefniadau gofal i’w alluogi i fynychu dosbarthiadau. 

Cafodd Mark ei enwebu am y Dyfarniad gan diwtor Hanes AABO Gwenda Phillips, a ddywedodd: “Ers i mi nabod Mark mae wedi bod yn ymrwymedig iawn i’r cwrs. Mae’n teithio o Landybie i Gastell-nedd ac yn y gorffennol mae wedi teithio i leoliadau eraill yn y gymuned i fynychu dosbarthiadau.

“Mae gan Mark wraig y mae angen gofal cyson arni ac rydw i’n gwybod ei fod yn aml yn poeni am ei wraig yn ystod y dosbarthiadau ond dydy e byth yn dangos hynny. Rhaid ei fod yn anodd iddo ganolbwyntio’n llawn ar ei waith ond mae’n llwyddo i wneud hynny drwy’r amser gydag agwedd bositif.”

Meddai Mark a fydd yn dechrau yn ei flwyddyn olaf ym mis Medi: “Rydw i’n benderfynol o ennill fy ngradd anrhydedd a byddwn yn hoff iawn o gael y cyfle i ysbrydoli eraill cymaint ag y mae fy nhiwtoriaid wedi fy ysbrydoli i.

“Ar ôl i mi gwblhau fy ngradd rydw i’n ystyried astudiaethau pellach neu weithio ym maes addysg o bosib.”

Gan longyfarch Mark ar ei lwyddiant, meddai’r Athro Colin Trotman, Pennaeth AABO: “Dyma’r ail wobr i ddysgwyr y mae Mark wedi’i hennill mewn wythnosau diweddar ac rydyn ni yma yn AABO yn falch iawn o’i lwyddiant.

“Mae’n fyfyriwr gwirioneddol ysbrydoledig sydd wedi llwyddo i gydbwyso ei gyfrifoldebau gofal a’i lwyth astudio. Hoffwn ddymuno’n dda iddo gyda’i astudiaethau yn y flwyddyn olaf.”

Am ragor o wybodaeth ar raddau rhan-amser sy’n dechrau ym mis Medi 2012 yn eich cymuned, cysylltwch ag AABO ar 01792 602211, neu ewch i http://www.swansea.ac.uk/dace/.