Madarch hud! Ymchwil newydd yn dangos bod madarch botwm yn helpu i reoli storfeydd carbon y blaned

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae lle pwysig i fadarch botwm yn ein deiet ac mewn siopau bwyd, ond ym myd natur, gwyddom fod Agaricus bisporus yn difetha dail ar lawr y goedwig.

button mushroom research Mae dadansoddiad o systemau mewnol y fadarchen hon – sy’n cael ei thyfu yn fwy nag unrhyw fadarchen arall yn y byd – wedi ei gyhoeddi ar-lein yng nghyfnodolyn y Proceedings for the National Academy of Science (PNAS) yn dilyn prosiect cydweithredol rhyngwladol yn cynnwys Dr Dan Eastwood o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe o dan arweiniad  Sefydliad Ymchwil Amaethyddol Cenedlaethol Ffrainc (INRA) a Chyd-sefydliad Genom Adran Ynni’r Unol Daleithiau (DOE JGI).

Yn benodol, mae’r gwaith newydd hwn yn dangos sut y caiff genynnau A. bisporus eu defnyddio nid yn unig i ddifetha dail ond hefyd i ddifetha pren ac i ddatblygu cyrff hadol, sef y rhan o’r fadarchen sydd uwchben y ddaear ac sy’n cael ei medi i wneud bwyd.

Mae’r gwaith hefyd yn awgrymu sut y mae goblygiadau mawr i brosesau o’r fath ar gyfer rheoli carbon coedwigoedd, ar gyfer bioburfeydd newydd ac i gynhyrchu biodanwydd, a thyfu madarch.

I ddarllen rhagor am y papur ymchwil, ewch i:

http://www.pnas.org/content/early/2012/10/05/1206847109.abstract?sid=1ec946da-af27-4c4b-9bd8-ad7970c69024 a hefyd http://www.pnas.org/