Hwb ariannol gan y Llywodraeth i ymchwil ynni byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd yn derbyn £12m o gyllid gan Lywodraeth y DU i ddatblygu Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni cyntaf y DU. £38m fydd cyfanswm cyllid y cynllun.

Bydd y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) yn cael ei leoli ar Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd arfaethedig y Brifysgol a bydd yn darparu cyfleuster safon fyd â’r gallu i ddenu ymchwilwyr rhyngwladol o ansawdd uchel. Bydd yn gwella’r gyfran o gyllid ymchwil sy’n cael ei wario yng Nghymru.

Bydd oddeutu 150 o swyddi proffesiynol lefel uchel yn gysylltiedig â’r sefydliad. Bydd y gweithgarwch ymchwil a wneir yno’n arwain at ffurfio cwmnïau deillio ac yn sbarduno rhagor o dwf economaidd. Bydd y prosiect hefyd yn creu swyddi adeiladu a’r angen am seilwaith dolen gyflenwi i gefnogi’r gweithgareddau ymchwil.

Mae’r ESRI yn fuddsoddiad o £38 miliwn fydd yn canolbwyntio ar elfennau o ymchwil y Brifysgol sy’n gysylltiedig ag ynni gyda’r ffocws pennaf ar ddiogelwch. Bydd hyn wedi’i seilio ar gryfderau hir dymor mewn petroliwm a phrosesu cemegol - yn enwedig o ran gwyddoniaeth gyfrifiannol (torri modelu craig a “ffracio”) a chyrydiad. Y prif gydweithwyr fydd BP. Bydd yr ESRI yn canolbwyntio ar faterion diogelwch yn ymwneud â datblygu prosesau ynni sydd eisoes yn bodoli yn ogystal â sicrhau bod technolegau ynni gwyrdd newydd yn cael eu lleoli ac integreiddio yn saff.

Meddai’r Athro Ian Cluckie, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe sy’n gyfrifol am Wyddoniaeth a Pheirianneg: “Un o’r heriau technegol, gwleidyddol a chymdeithasol pwysicaf sy’n wynebu’r byd yn yr 21ain yw darparu ynni glan a fforddiadwy sydd â chyflenwad cynaliadwy ac sydd ar gael yn fyd-eang. Bydd cwrdd â’r her hon yn galluogi cymdeithas i fynd i’r afael â nifer o broblemau difrifol eraill sy’n wynebu’r byd, megis darparu dŵr yfed glan a bwyd. Mae materion diogelwch yn parhau i fod yn bwysig, a byddant yn dod yn rhan fwyfwy hanfodol, o arferion a pholisi ynni yn y dyfodol.     

“Mae Prifysgol Abertawe’n cymryd yr hyn y credwn ei fod yn agwedd unigryw at ymchwil ynni cydweithredol a rhyngweithiol, gydag ymchwil technolegol wedi’i blethu â goblygiadau polisi a busnes. Golyga hyn y bydd y sefydliad newydd, yn ogystal â chynnal ymchwil o bwys rhyngwladol, yn sbarduno buddsoddi ychwanegol a thwf economaidd yn y rhanbarth.”

Dywedodd David Willetts, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth: ‘‘Mae’n wych bod ein helusennau a’n busnesau mwyaf yn dymuno cydweithio gyda’n prifysgolion o safon fyd-eang. Maen nhw eisiau cydweithio i sicrhau dyfeisgarwch, masnacheiddio a thwf, fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod Prydain Fawr yn cystadlu ac yn ffynu yn y ras fyd-eang. Bydd y cynllun gwych yma rhwng Prifysgol Abertawe a BP yn taclo’r prif faterion rydym yn eu hwynebu.’’

Croesawodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru y cyhoeddiad: ‘‘Mae cryfhau gallu prifysgolion Cymru i gynhyrchu ymchwil yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn hanfodol er mwyn sicrhau tyfiant cynaliadwy a hir dymor i’r economi. Mae gwybod bod cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y sefydliad ymchwil yma felly yn newyddion arbennig o dda i Gymru ac Abertawe.

‘‘Wedi’i leoli ar y campws newydd arfaethedig, bydd yn darparu ffocws cryf i ddatblygu cysylltiadau cydweithredol rhwng y byd academaidd a diwydiant a gweithgarwch deilliedig i gefnogi tyfiant economaidd yn un o’n sectorau mwyaf allweddol.

‘‘Rwyf hefyd yn falch y bydd y sefydliad newydd yn denu ymchwilwyr o’r radd flaenaf i Gymru, maes mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi a hyrwyddo trwy ein menter Sêr Cymru.’’