Gwobr Bafta i Gymrawd y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, Lowri Morgan noson lwyddiannus yn seremoni wobrwyo Bafta Cymru eleni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Enillodd y cyflwynydd teledu poblogaidd o Dregwyr wobr am y Cyflwynydd Gorau am ei gwaith gyda Ras yn Erbyn Amser ar S4C. Derbyniodd y rhaglen hefyd wobr am y Gyfres Ffeithiol Orau.

Lowri Morgan Honorary Award

Roedd Ras yn Erbyn Amser yn dilyn hynt a helynt Lowri wrth iddi hyfforddi ar gyfer Marathon 6633 350-milltir o’r Cylch Arctig yn ystod 2011. Hi oedd yr unig un i groesi’r llinell derfyn ac yn un o chwech sydd wedi llwyddo i gwblhau’r gamp erioed.

Mae Lowri wedi hen arfer wynebu sialensiau heriol. Mae wedi cwblhau llawer dros y blynyddoedd gan gynnwys saith marathon, dau farathon triathlon dyn haearn heb anghofio’r ras eithafol trwy jyngl yr Amazon nôl yn 2009.

Yn gynharach eleni, cafodd Lowri ei gwahodd i dderbyniad arbennig gan y Frenhines i gydnabod ei gwasanaethau i antur a fforio.