Gwersylloedd Haf Datblygu Cymwysiadau yn llwyddiant mawr gyda phlant yn eu harddegau yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y haf hwn, mae dros 100 o blant yn eu harddegau yn rhanbarth Abertawe wedi pacio eu tywelion traeth i ffwrdd a rhoi cynnig ar ddatblygu cymwysiadau (apps) a dylunio gemau i gadw eu hunain yn brysur.

Bu Technocamps, prosiect allgymorth gwerth £6miliwn a gefnogwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn manteisio ar y tawelwch ar y campws yn ystod gwyliau'r haf drwy sefydlu cyfres o wersylloedd technoleg uchel wedi'u bwriadu ar gyfer pobl ifanc a chanddynt ddiddordeb mewn cyfrifiadura.

Y gwersyll cyntaf i gychwyn gweithgareddau'r haf oedd y Gwersyll Datblygu Cymwysiadau iOS, a fu'n galluogi'r bobl ifanc i ymgysylltu â thechnolegau newydd a datblygol gan gynnwys yr iPad 2, iPod Touch a Mac Book Pro’s. Wrth fynd i'r afael â'r iaith rhaglennu cod-X, gwelodd y bobl ifanc eu dau ddiwrnod o waith caled yn dwyn ffrwyth ar ffurf gêm newydd a chyffrous i'r iPhone y gwnaethant ei chyflwyno'n ddiweddarach i Siop Apple.

Meddai Robert-Jay Curry, sy'n 16 oed ac a fynychodd un o'r Gwersylloedd Datblygu Cymwysiadau iOS ac a gynhyrchodd gêm a oedd yn cynnwys osgoi ceir a chathod:

"Roedd hi'n ddiddorol dros ben. Gyda thechnoleg yn datblygu mor gyflym, mae'n braf gallu dechrau casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnaf nawr. Rydw i'n edrych ymlaen at astudio cyfrifiadura yn y chweched dosbarth ym mis Medi fel bod modd i mi ddatblygu fy ngwybodaeth graidd yn fwy."

Gwersyll arall a gipiodd ddychymyg pobl ifanc yr haf hwn oedd iaith rhaglen weledol newydd Microsoft, Kodu, a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer datblygu gemau. Ar ddiwrnod cyntaf y gwersyll bu'r bobl ifanc yn dysgu sut i greu byd, mapio llwybrau, yn ogystal â rheoli cymeriadau a'u gelynion. Ar yr ail ddiwrnod buont yn troi eu hyfforddiant yn ymarfer gan ddylunio eu gêm eu hun, gan ei chreu a'i phrofi ar ei ffrindiau, a'r cyfan yn cael ei wneud drwy reolydd X-box.

Roedd Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller, wrth ei fodd gyda llwyddiant y gyfres gyntaf o wersylloedd gwyliau.  Meddai:

“Trwy gydol y flwyddyn roedd galw uchel gan ysgolion, colegau a darparwyr addysg eraill, i ddarparu gweithdai ym maes datblygu apps a dylunio gemau oherwydd dyma'r maes sy'n cyffroi pobl ifanc.

"Diolch i'n datblygwyr a'n tîm ymchwil yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym wedi llwyddo i gynhyrchu cyfres o weithdai hwyl ac ysbrydoledig tu hwnt a fydd yn darparu pobl ifanc â chynnyrch gweithiol ar y diwedd. Y peth gwych am ein gweithdai yw bod modd iddynt barhau a'u diddordeb adref neu yn yr ysgol drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein am ddim ar ein gwefan. Yma rydym wedi cynhyrchu canllawiau syml, hawdd eu dilyn a fydd yn eu helpu i barhau â datblygu eu gwybodaeth raglennu."

Mae'r rhaglen Technocamps, a ddarperir drwy gydol y flwyddyn, ar gael i bobl ifanc rhwng 11-19 oed yn ardal gydgyfeirio Cymru. Mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg, mae'r prosiect yn ceisio ysbrydoli pobl ifanc i ystyried y testunau cyfrifiadura sy'n tanseilio'r pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), gyda'r nod tymor hir o'u hannog i ddilyn gyrfaoedd mewn maes a fydd yn gyrru twf economaidd yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect, ewch i www.technocamps.com