Gwasanaeth Llyfrgell Arloesol Prifysgol Abertawe’n cipio Gwobr Farchnata

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae awduron talentog o Brifysgol Abertawe wedi helpu Gwasanaeth Llyfrgell y Brifysgol i gipio gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Arloesedd Marchnata Llyfrgelloedd Cymru 2012.

Yn y prosiect arobryn Dathlu Awduron Prifysgol Abertawe, mae awduron cyhoeddedig o’r Brifysgol yn siarad ar fideos byr am eu llyfrau penodol a’r hyn a’u hysbrydolwyd i’w hysgrifennu. Mae’r fideos ar gael ar y sianel ‘Celebrating Swansea University Authors’ newydd ar YouTube: http://www.youtube.com/user/CelebrateSUAuthors

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol y mae gwasanaethau Llyfrgell y Brifysgol wedi ennill categori Addysg Uwch y Gwobrau Arloesedd Marchnata, sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y gwobrau’n agored i’r holl wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru i gydnabod a gwobrwyo arloesed mewn marchnata. Mae llyfrgelloedd yng Nghymru’n rhedeg gweithgareddau marchnata drwy gydol y flwyddyn a nod y gwobrau yw dathlu a hyrwyddo’r gwaith gwerthfawr hwn.

Ariannwyd prosiect peilot Dathlu Prifysgol Abertawe, a lansiwyd ym mis Tachwedd y llynedd, gan grant Sioe Deithiol Darllen Llywodraeth Cymru yn y man cyntaf, er mwyn i brifysgolion lleol ysbrydoli darllen yng Nghymru. Mae’r Brifysgol bellach yn ariannu’r prosiect sy’n cynnwys creu posteri gyda llun o’r awduron a’u llyfrau, gwybodaeth am y llyfr a chyswllt at fideo’r awdur. Mae posteri yn hyrwyddo’r awduron a’u llyfrau hefyd i’w gweld yn y Colegau ac yn y Llyfrgell a gall myfyrwyr a staff hefyd sganio’r cod QR ar y posteri gyda’u dyfeisiau smartphone i weld y fideos unigol.

Meddai Lori Havard, Pennaeth Cymorth Academaidd yn Adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau’r Brifysgol: “Rydym mor falch ein bod wedi ennill y wobr hon ar gyfer ein prosiect sy’n hyrwyddo gweithiau llenyddol cyffrous sydd wedi’u cynhyrchu gan ein hacademyddion a’n staff talentog. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ein gwaith.

“Dechreuom y prosiect peilot drwy hyrwyddo deg awdur ac rydym wedi ehangu’r prosiect fel ein bod bellach yn arddangos pymtheg o’n hawduron ac yn parhau i recordio cyfranogwyr newydd ar fideo. Rydym yn gobeithio y bydd y storïau a adroddir yn y fideos yn annog myfyrwyr i ddarllen y cyhoeddiadau diddorol y mae ein staff wedi’u creu ac efallai yn eu hysbrydoli i ddilyn trywydd cyhoeddi eu hymchwil eu hunain.”

Beirniad y gwobrau oedd Dr Jonathan Deacon, Darllenydd mewn Entrepreneuriaeth a Marchnata yn Ysgol Fusnes Prifysgol Casnewydd a Chadeirydd y Sefydliad Siartredig dros Farchnata Cymru.

Wrth sôn am brosiect Prifysgol Abertawe, meddai Dr Deacon: “Safle cyntaf unwaith eto ar gyfer ymgyrch hynod greadigol ac un sydd â chanolbwynt clir sydd wedi’i gweithredu’n dda iawn. Ceir defnydd creadigol o’r dechnoleg sydd ar gael ynghyd â defnydd clyfar iawn o’r partneriaethau sydd yma (hy Staff Academaidd). Fel y dywedais y llynedd ynglyn â phrosiect Abertawe: ‘Mae’r math o gynnig hwn yn dangos dealltwriaeth glir o anghenion y defnyddiwr ac mae’n gwbl gynaliadwy a hawdd ei ddyblygu’ ac mae hwn yn wir ar gyfer yr ymgyrch yn 2011. Un sylw arall - mae defnyddio’r codau QR yn gweithio’n arbennig o dda gyda’r gynulleidfa darged ac yn enghraifft dda iawn o fewnwelediad gan ddefnyddwyr.”