Georgia Davies yn cipio'r aur ym Mhencampwriaethau'r Prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bu'r fyfyrwraig o Brifysgol Abertawe a enillodd fedal yn y Gemau Olympaidd, Georgia Davies, yn sefyll ar ben y podiwm ar ddau achlysur y penwythnos hwn. Enillodd Georgia'r fedal Aur yn y 50m a'r 100m dull Cefn ym mhencampwriaethau cwrs byr Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, gan osod record ar gyfer y gystadleuaeth yn y ddwy ras.

Enillodd ei ffrind tîm Alice Tennant fedal aur hefyd yn y 400m dull Cymysg (IM) gydag amser gorau ei bywyd. Enillodd Tennant (2il flwyddyn y Gyfraith) fedal arian hefyd yn y 200m IM a medal efydd yn y 400m dull Rhydd.

Daeth rhaglenni nofio Prifysgol Abertawe at ei gilydd i gystadlu yn y bencampwriaeth ar gyfer 2012 ac unwaith eto dangosodd y tîm ei gryfder ar lefel unigol ac ar lefel tîm gan ennill amryw fedalau o bob lliw a chan gynnal ei deitl fel y Brifysgol gorau yng Nghymru ar gyfer nofio, ac yntau'r unig Brifysgol o Gymru ymhlith yr 20 tîm gorau.

Dangosodd y merched ei hawdurdod unwaith eto, er gwaethaf camgymeriad drud mewn rownd ragbrofol y ras gyfnewid ac absenoldebau allweddol i gipio'r 3ydd safle ar y cyfan.

Ymhlith y merched eraill i ennill medalau oedd Libby Mitchell a dorrodd ddau rwystr anodd iawn yn y 200m dull Rhydd (1:59) a'r 100m dull Pili Pala (59 eiliad) ar ei ffordd i ennill medalau efydd ac arian yn y drefn honno. Enillodd Libby fedal arian bellach gydag amser gorau ei bywyd yn y 200m dull Pili Pala.

Adam Mallet oedd yr unig nofiwr o blith y Bechgyn i gyrraedd y podiwm gyda medal arian yn y 200m dull Pili Pala y tu ôl i'r nofiwr Olympaidd Roberto Pavonia gystadlodd yng ngemau Olympaidd 2012.

Enillodd tîm ras gyfnewid 4x50m y merched fedal hefyd gydag ymdrech gref i sicrhau'r fedal efydd. Roedd y tîm yn cynnwys Alice Tennant, Avril Kiritschenko, Georgia Davies a Libby Mitchell.

Croesawodd Imogen Stanley, Swyddog Chwaraeon y llwyddiant, gan ddweud, "Rydw i'n falch iawn o'r holl nofwyr a gynrychiolodd Brifysgol Abertawe yn y gystadleuaeth dros y penwythnos.

Mae'r ffaith mai ni oedd y Brifysgol orau yng Nghymru yn y Bencampwriaeth hon yn beth gwych, yn ogystal â gorffen yn y pump uchaf yn y DU."

Mae tîm 2012 yn dîm ifanc ac maen nhw'n gobeithio y bydd momentwm y canlyniad hwn yn parhau erbyn iddynt ddychwelyd i Sheffield ym mis Chwefror ar gyfer y Pencampwriaethau Cwrs Hir.

I gael gwybod mwy ewch i www.facebook.com/swanseauniversityswimming