Fforwm Busnes: ‘Ychwanegu Gwerth o Ddeunydd Electronig Argraffadwy’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW) a Chanolfan Argraffu a Chotio Cymru (WCPC) ym Mhrifysgol Abertawe wedi ymuno â’i gilydd i gyflwyno fforwm ar gyfer busnesau Cymreig ‘Ychwanegu Gwerth o Ddeunydd Electronig Argraffadwy’ yn hwyrach y mis hwn.


Dyddiad: Dydd Iau 28ain Mehefin 2012.

Amser: Bydd cofrestru’n dechrau am 9.30am, cyflwyniadau’n dechrau am 10am, a’r digwyddiad yn gorffen am 4pm.

Lleoliad: Darlithfa Sifil a Chyfrifiadurol, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe.


Crynodeb o’r digwyddiad: Gall deunydd electronig argraffadwy fod yn ychwanegu gwerth at y defnydd pacio, y graffeg argraffedig, neu’r cynnyrch addurnedig y mae eich cwmni’n ei gynhyrchu. Felly pam nad ydych yn cynnig y rhain i’ch cwsmeriaid? Pam nad yw’r rhai sy’n defnyddio’r cynnyrch yn ei fynnu?

Nod y fforwm hwn yw mynd y tu ôl i’r cyhoeddusrwydd, gan esbonio’r cyfleoedd a’r agweddau perthnasol eraill sy’n ymwneud â deunydd electronig argraffadwy i’r argraffydd graffeg a defnydd pacio.  

A ydych chi’n gwybod faint o gwmnïoedd sydd eisoes yn rhan o’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru? Yn ogystal â chwrdd â’r cwmnïoedd hyn, bydd cyfle hefyd i glywed am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Strategaeth Technoleg.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys teithiau tywys o gyfleusterau WCPC a chyfleoedd rhwydweithio.


Mae’r siaradwyr ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys:

- Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe,  ar ‘Innovation and Engagement at Swansea University'

- Yr Athro David Gethin, Cyd-gyfarwyddwr WCPC, ar ‘What is Printed Electronics?’

- Dr Khasha Ghaffarzadeh, Dadansoddwr Technegol, ID Techex, ar ‘The potential market for printed electronics’ 

- Kate Stone, Prif Swyddog Gweithredol Novalia, ar ‘Integrating Printable electronics with graphics’

- Yr Athro, Tim Claypole, Cyd-gyfarwyddwr WCPC, ar ‘So what is it that printers need?’

- Alan Hodgson, Cadeirydd ISO IEC TC119 printed electronics a 3M, ar ‘Standards and opportunities for Printable electronics’

- Eirion Jones, Swyddog Datblygu Busnes – TGCh, Llywodraeth Cymru, ar ‘What support is available from the Welsh Government’

- Myrddin Jones, Prif Dechnolegydd, Electroneg, Ffotoneg, Systemau Trydanol, Bwrdd Strategaeth Technoleg, ar ‘What support is available from the Technology Strategy Board’.


Am agenda fanylach ac i gofrestru eich presenoldeb, cysylltwch ag Adran Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 606060, neu e-bost: researchandinnovation@swansea.ac.uk.