Ennill grant ar gyfer ymchwil ar ffoaduriaid ifanc.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae grant o £ 7,000 gan y Gronfa Arloesedd Dyngarol (HIF) wedi cael ei ddyfarnu i ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe i edrych ar sut mae plant sy’n byw am gyfnodau hir mewn aneddiadau ffoaduriaid yn cael eu diogelu.

Fe fydd myfyriwr PhD, Anna Skeels o Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo (CMPR), Prifysgol Abertawe yn cychwyn y prosiect chwe mis o hyd ym mis Ebrill a bydd yn treulio deufis yn anheddiad Kyaka II yn Uganda.

Bydd Anna yn gweithio gyda grwpiau o blant sy'n ffoaduriaid rhwng chwech a 16 oed  i ganfod mwy am eu profiad o gael eu diogelu mewn aneddiadau ffoaduriaid ac yn edrych ar ffyrdd o fwy effeithiol o ddiwallu eu hanghenion.

Bydd Anna yn gweithio gyda’r partneriaid Swyddfa’r Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), Achub y Plant a’r Gymdeithas Almaenig ar gyfer Cydweithrediad Rhyngwladol (GIZ) i archwilio sut y maent yn cysylltu â phlant ar adegau allweddol, megis pan fyddant yn cyrraedd a chofrestru yn yr aneddiadau ffoaduriaid. Bydd hi hefyd yn archwilio amgylchedd yr anheddiad a darganfod a oes ganddynt fannau addas i blant, mecanweithiau ar gyfer gwneud cwynion a mynediad at wybodaeth.

Dywedodd Anna, "Mae plant yn wynebu peryglon ac anghenion diogelu gwahanol ac yn cyfathrebu’u pryderon am ddiogelwch mewn ffordd wahanol i oedolion.

"Mae cyfran sylweddol o boblogaeth ffoaduriaid dros y byd yn blant hyd at 18 oed. Mae bron i 50% o holl achosion yr UNHCR yn blant a phlant yw’r mwyafrif mewn nifer o wersylloedd ffoaduriaid. Er bod sefydliadau fel GIZ ac Achub y Plant yn gwneud gwaith i'w diogelu, nid yw’r broses brif ffrwd ar gyfer ffoaduriaid yn gweithio’n ddigonol gyda phlant sy’n ffoaduriaid neu’n mynd i'r afael â'u pryderon diogelwch penodol ac mae perygl nad yw plant sy'n ffoaduriaid yn teimlo y gallant gymryd rhan neu leisio eu pryderon trwy gydol y broses ddiogelu. "

Dywedodd Nicolas Kroger, Rheolwr y HIF, "Rydym yn falch iawn o ddyfarnu cyllid i brosiect unigryw y CMPR a fydd yn archwilio cyfraniad plant fel modd i arloesi ym maes cymorth dyngarol. Dyma'r prosiect cyntaf rydym wedi ei ariannu sy'n ystyried y defnyddiwr fel arloeswr, ac rydym yn falch bod Prifysgol yn y DU yn cychwyn ar y math hwn o ymchwil. "

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Delyth Purchase, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn 01792 513245 neu  e-bost:  d.purchase@abertawe.ac.uk