Diwrnod ‘Awduron’ Prifysgol Abertawe 2012

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd rhai o awduron mwyaf addawol Cymru’n ymgasglu wrth ochr aelodau allweddol o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe ar Mai 17 ar gyfer y trydydd Diwrnod Awduron blynyddol.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i bawb sydd â diddordeb yn y maes llenyddol, i rannu cyngor, sylwadau a barnau am y byd ysgrifennu, ei bleserau a’i herion, ac mae wedi’i drefnu gan adrannau ysgrifennu creadigol Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dew Sant, Caerfyrddin.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o awduron cyffroes, golygyddion ac asiantau a bydd gan bob un ohonynt brofiad amhrisiadwy i’w rhannu. Bydd y digwyddiad yn dechrau gydag ymddangosiad gan yr awdur a’r darlledwr carismatig, Jon Gower, a fydd yn lansio ei gasgliad newydd sbon, Too Cold for Snow, (Parthian, 2012) ac yna bydd yr asiant Euan Thorneycroft, o’r asiantaeth lenyddol AM Heath, yn siarad am ddyfodol cyhoeddi yn yr oes ddigidol

Bydd y Golygyddion Gwen Davies (New Welsh Review) a Fiona Sampson (gynt o Poetry Review) yn rhannu cyngor am sut i gyhoeddi eich gwaith mewn cylchgronau, tra bydd enillydd y wobr T.S. Eliot, Philip Gross yn darllen o’i gasgliad diweddaraf.

Meddai trefnydd y digwyddiad, Dr Fflur Dafydd, darlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe: “dyma’r trydydd tro i ni gynnal y Diwrnod Awduron, ac rydym yn hynod falch o sut y mae’r digwyddiad wedi blodeuo, gan ddod ag awduron newydd ac awduron sefydledig at ei gilydd mewn amgylchedd anffurfiol. Mae digon o gyfle i drafod, gael cyngor a rhannu profiadau ac eleni fydd y flwyddyn orau eto felly archebwch le yn gynnar i osgoi cael eich siomi.”

Caiff dwy antholeg ysgrifennu creadigol newydd eu lansio hefyd yn ystod y dydd, Tongues, gwaith myfyrwyr ysgrifennu creadigol o’r Drindod Dewi Sant, a’r cylchgrawn ar-lein Swansea Review, sy’n cynnwys gwaith newydd sbon gan fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal ag awduron sefydledig.

Yn dilyn y Diwrnod Awduron, bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno rhannu o ddrama gan fyfyrwyr MA Prifysgol Abertawe yn yr ail o ddwy noswaith ‘Diemyntau Garw’.

I archeb eich tocyn am ddim cysylltwch â Chanolfan Dylan Thomas:  01792 463980 neu archebwch ar-lein yn https://www.ticketsource.co.uk/boxoffice/select/TsDUhzmfqVSC.