Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Nos Lun 12 Mawrth 2012 am 6yh cynhelir digwyddiad arbennig i lansio cynllun newydd sbon o’r enw ‘Dewch i Siarad’ yng Ngwesty’r Cawdor, Llandeilo.

Partneriaeth yw’r cynllun rhwng Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a Menter Bro Dinefwr ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion gogledd Cymru yn trefnu cynllun tebyg ar y cyd â Menter Iaith Maelor, a’r gobaith yw ymestyn y cynllun i rannau eraill o Gymru ymhen hir a hwyr.

Bwriad y cynllun yw annog mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ymhlith dysgwyr wrth iddyn nhw ymweld â busnesau lleol.

Mae deunaw o fusnesau Sir Gaerfyrddin wedi ymuno â’r cynllun ac maent yn awyddus i groesawu ac annog dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg bob cyfle posib.

Mae Academi Hywel Teifi a Menter Bro Dinefwr wedi darparu arweiniad a chanllawiau i bob busnes ynglyn â’r ffordd orau i fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg gyda dysgwyr.

Meddai Aled Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru, Academi Hywel Teifi: ‘‘Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac yn adeiladu ar y gwaith dysgu anffurfiol sydd eisoes yn cael ei wneud gan y Canolfannau Cymraeg i Oedolion.

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r busnesau am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at weld y cynllun yn datblygu o nerth i nerth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Manon Llwyd, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn 01792 513454, neu  e-bost m.llwyd@swansea.ac.uk