Dewch ar drywydd y Bloodhound

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y cerbyd uwch sonig enwog Bloodhound ym mhabell GwyddonLe ar faes Eisteddfod yr Urdd rhwng 5 - 9 Mehefin 2012.

Bloodhound SSC: One Year On Bloodhound yw’r cerbyd enwog sy’n gobeithio torri’r record byd ar gyfer cyflymder tir a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2013. Bydd y car yn mynd pum gwaith yn fwy cyflym na char Fformwla Un ac yn cael ei bweru gan fotor Eurojet EJ200. Mae’n 12.8 metr o hyd ac yn pwyso 6.4 tunnell fetrig.

Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound. Bydd y gwyddonwyr sydd wedi bod ynghlwm ¿’r cynllun yn GwyddonLe i adrodd hanes y cerbyd a bydd fideo yn olrhain datblygiad y cynllun i’w weld gydol yr wythnos.

BloodhoundGwyddonLe Mae Bloodhound wedi cael ei gynllunio yn arbennig i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM (Peirianneg, Gwyddoniaeth, Technoleg a Mathemateg) a thrwy hynny i greu cenhedlaeth newydd o ddarpar wyddonwyr a pheirianwyr.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi treulio rhan helaeth o’r ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio o amgylch ysgolion Cymru yn cynnal gweithdai wedi’u seilio ar gynllun Bloodhound.

Meddai Dr Ben Evans, Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Ngholeg Beirianneg Prifysgol Abertawe ac aelod o dîm dylunio’r Bloodhound SSC: ‘‘Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o brosiect mor eiconig a braf yw cael rhoi llwyfan iddo yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop. Os byddwn yn gallu defnyddio prosiect Bloodhound i ddangos i bobl ba mor gyffrous y gall peirianneg fod ac annog mwy o blant a phobl ifanc i astudio pynciau STEM, yna byddai’n fwy na bodlon!”