Dehongli Iechyd: Canolfan Newydd ym Mhrifysgol Abertawe’n rhoi cofnodion iechyd wrth galon ymchwil feddygol y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn cyhoeddi buddsoddiad hanesyddol o £19 miliwn i sefydlu pedair Canolfan Rhagoriaeth e-iechyd yn Abertawe, Llundain, Manceinion a Dundee. Gwneir y cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts.

Hon yw Canolfan MRC gyntaf Prifysgol Abertawe ac mae’n destun i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd mewn sgiliau ac arbenigedd yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe.

Bydd y Ganolfan, a adwaenir fel CIPHER (Canolfan ar gyfer Gwella Iechyd Poblogaethau drwy Ymchwil E-Iechyd) yn archwilio amrywiaeth eang o gyflyrau sy’n faich enfawr ar boblogaeth y DU, gan gynnwys diabetes a gordewdra, clefyd cardiofasgwlaidd, canser ac iechyd plant a mamolaeth. Yr Athro Ronan Lyons a’r Athro David Ford fydd yn arwain CIPHER.

Ar ôl clywed y newyddion, meddai’r Athro Lyons: “Rydym wrth ein boddau bod ein cynnig a arweiniwyd gan Gymru wedi bod yn llwyddiannus mewn maes cystadleuol iawn. Mae ein llwyddiant yn deillio o’r cydweithrediad bendigedig yr oedd modd i ni ei greu rhwng unedau academaidd ar draws Cymru ac yn rhyngwladol, gyda chymorth gweithgar y GIG, Llywodraeth Cymru, sefydliadau trydydd sector ac aelodau o’r cyhoedd. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein llwyddiant mewn gwneud ymchwil sy’n cael gwir effaith ar wella iechyd a lles cleifion a phoblogaeth Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Ford: “Mae CIPHER yn cynrychioli cam mawr ymlaen yn y ffordd y mae ymchwil iechyd yn cael ei chynnal. Yn Abertawe, mae gennym hanes o ddefnyddio cyfrifiadura pŵer uchel datblygedig a chyda chymorth HPC Cymru, gallwn ddefnyddio systemau cyfrifiadur pwerus i gwrdd â’r heriau o ddadansoddi llwyth enfawr o ddata a gesglir gan y GIG a’r sector cyhoeddus, gan ei droi’n ganfyddiadau ymchwil sy’n ein helpu ni i gyd i ddeall salwch ac afiechyd a gwella’r modd y gwneir polisïau iechyd. Mae ein partneriaethau  CIPHER, gyda rhai o’r gwyddonwyr gorau yn y byd, yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar bynciau o bwys ynghylch iechyd poblogaethau. Bydd CIPHER hefyd yn mynd i’r afael â’r prinder o wybodegwyr iechyd medrus yn y DU, gan ddarparu addysg a chyfleoedd hyfforddi i ddatblygu’r gweithlu medrus a phrofiadol sydd ei angen ar y DU.” 

Gan anelu at uchafu gwerth unigryw y GIG, bydd pob un o’r pedair Canolfan yn ymgymryd ag ymchwil flaenllaw sy’n cysylltu cofnodion e-iechyd â ffurfiau eraill o ymchwil a data a gesglir fel mater o drefn, er lles i gleifion a’r cyhoedd a fydd hefyd yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol fyd-eang.

Drwy gyfuno data clinigol, cymdeithasol ac ymchwil, mae ymchwilwyr yn anelu at adnabod triniaethau mwy effeithiol, gwella diogelwch cyffuriau, asesu risgiau i iechyd y cyhoedd ac astudio achosion afiechydon ac anabledd. Bydd y Canolfannau hefyd yn ymddwyn fel pwynt cyswllt hanfodol ar gyfer diwydiant, y GIG a gwneuthurwyr polisïau.

Bellach bydd rhwydwaith yn cael ei ffurfio i fanteisio ar arbenigedd y Canolfannau, a hybu cydweithrediadau ehangach ymhlith ymchwilwyr o’r DU ac ymchwilwyr rhyngwladol i sicrhau bod cysylltiadau effeithiol rhwng gwahanol fathau o setiau data iechyd a chymdeithasol. Bydd y Canolfannau hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa a hyfforddi i gynyddu gallu’r DU mewn ymchwil drwy ddefnyddio cofnodion iechyd.  

Meddai’r Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts: “Diolch i’r GIG a sylfaen ymchwil flaenllaw fyd-eang y DU, rydym mewn sefyllfa unigryw i ddefnyddio data cleifion i astudio afiechyd a datblygu triniaethau gwell. Y canolfannau e-iechyd yw’r cyntaf o’u math ac mae ganddynt y gallu i chwyldroi iechyd ymchwil. Byddant yn darparu cipolwg hanfodol ar gyflyrau sy’n effeithio ar filiynau o bobl ac yn y pen draw byddant yn dod â buddion i gleifion.”

Meddai’r Athro Syr John Savill, prif weithredwr yr MRC: ‘‘Dyma drobwynt ar gyfer  ymchwil ddata ac ar gyfer y Cyngor Ymchwil Feddygol a chredaf y bydd yn darparu buddion ymchwil e-iechyd, gan wella gofal cleifion dros y blynyddoedd sydd i ddod.  Mae’r ffordd y mae’r sefydliadau partner wedi dod ynghyd i fuddsoddi mewn e-iechyd yn pwysleisio ei bwysigrwydd a bydd yn helpu i sefydlu’r DU fel arweinydd byd-eang yn y maes hwn.”

Aelodau’r Fenter E-Iechyd sydd wedi cyd-ariannu’r pedair canolfan yw: Ymchwil Arthritis y DU, Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser y DU, Swyddfa’r Prif Wyddonydd (Cyfarwyddiaethiau Iechyd Llywodraeth yr Alban), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Feddygol, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (Llywodraeth Cymru) ac Ymddiriedolaeth Wellcome.