Darlith Hywel Dda: The City of London: Sinners or Saviours?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd cyn Arglwydd Faer Dinas Llundain a’r cyfreithiwr blaenllaw Syr David Lewis yn traddodi darlith Hywel Dda flynyddol Prifysgol Abertawe.

Teitl: The City of London: Sinners or Saviours?

Siaradwr: Syr David Lewis

Dyddiad:  Dydd Iau 18fed Hydref, 2012

Amser: 6.30 pm

Lleoliad:  Darlithfa Faraday, Adeilad Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim – croeso i bawb.  Bydd lluniaeth ar gael.

Mae Syr David Lewis yn ymgynghorydd gyda Norton Rose, cwmni cyfreithiol sydd wedi’i raddio yn y 5 uchaf yn rhyngwladol, a leolir yn Llundain.

Fel cyn Cadeirydd a Phartner Hŷn, bu’n arbenigo mewn cydsoddiadau a chaffaeliadau a chyllid corfforaethol yn ystod ei amser gyda’r cwmni.

Mae wedi cynghori ar nifer o drosfeddiannau cwmnïau cyhoeddus mawr a thros 100 o gwmnïoedd newydd ac wedi’i restri fel cyfreithiwr cyllid corfforaethol blaenllaw yn Legal 500, Chambers a chyfeiriaduron Cydsoddi a Chaffael rhyngwladol.

Roedd Syr David yn Bartner Rheoli yn swyddfa Hong Kong rhwng 1979 a 1982, yn bennaeth ar ymarfer cyllid corfforaethol ac yn Gadeirydd ac yn Bartner Hŷn rhwng 1997 a 2003.

Roedd yn Arglwydd Faer ar Ddinas Llundain yn 2007-2008 ac mae’n parhau i fod yn Henadur ac yn Ddirprwy Raglaw'r ddinas.

Ar 1 Ionawr 2009, cafodd ei urddon farchog am wasanaethau i’r proffesiwn ac i Ddinas Llundain.

Meddai’r Athro Gwyn Parry, Cyfarwyddwr Sefydliad Hywel Dda Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Syr David yma i Brifysgol Abertawe. Mae’n gyfreithiwr o safon fyd-eang ac yn wasanaethwr cyhoeddus nodedig a’i wreiddiau’n gadarn yn Sir Gaerfyrddin, lle y mae ganddo ef a’i deulu gartref.”

Mae Sefydliad Hywel Dda yn ganolfan ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a enwir ar ôl brenin Cymreig o’r degfed ganrif sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â chynhyrchu cyfreithiau Cymreig brodorol. Rôl y sefydliad yw hyrwyddo ymchwil ac ysgolheictod ar y traddodiad cyfreithiol Cymreig a chyfreithiau a system gyfreithiol Cymru fodern.  Caiff y ddarlith hon ei thraddodi yn Saesneg.

 Manylion cyswllt: Am ragor o fanylion ffoniwch 01792 295831 neu e-bostiwch: r.g.parry@abertawe.ac.uk