Cynhadledd bwysig ar y gwyddorau cymdeithasol yn dod i Gogledd Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n ymwneud â materion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn teithio i Fangor wythnos nesaf.

Bydd trydedd cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, gwleidyddion, myfyrwyr ôl-raddedig a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus i archwilio themâu amserol sy’n effeithio ar gymdeithas yng nghyd-destun datganoli, lle a newid.

Bydd yr ystod eang o themâu sy’n cael sylw yn y gynhadledd ddeuddydd yn adlewyrchu ymchwil ryngddisgyblaethol WISERD. Maent yn cynnwys: Marchnadoedd Llafur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru, Iechyd a Gofal, Hunaniaeth a Lle, Damcaniaeth ac Arfer Datganoli, Tlodi ac Ethnigrwydd, Addysg a Phlant yng Nghymru, Mudo a Symudedd, Troseddu a Throseddeg, a Dinasyddiaeth ac Iaith.

Bydd tri phrif siaradwr gwadd uchel eu proffil i’w gweld yn y rhaglen sy’n cynnwys dros 55 araith a thrafodaeth o gwmpas y bwrdd, sef: y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Yr Athro John Curtice o Brifysgol Strathclyde a’r gwleidydd o Gosta Rica a’r cyn ymgeisydd arlywyddol Ottón Solís.

Bydd araith flaenllaw yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar sut i ddeddfu ar gyfer cynaliadwyedd yn agor y gynhadledd. Meddai Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Gareth Rees: ”Rydym yn falch iawn o groesawu unigolyn mor uchel ei barch i gynhadledd WISERD. Mae Dafydd Elis-Thomas yn un o’r ffigurau amlycaf yng ngwleidyddiaeth gyfoes Cymru ac rwy’n siwr y bydd ei gyfraniad yn ddeallus ac yn gwneud i ni feddwl”.

I lansio’r digwyddiad, byddwn yn cynnal noson arbennig o farddoniaeth noswyl y gynhadledd gyda’r beirdd lleol enwog, Menna Elfyn a Zoe Skoulding, yn cyflwyno’u gwaith o dan y teitl ‘Ffin a Frontier’.

Mae WISERD yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe.  Fe’i hariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU (ESRC), ac mae WISERD wedi sefydlu ei hun fel canolfan flaenllaw ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ers ei chreu yn 2009.

Ewch i www.wiserd.ac.uk  a www.wiserd.ac.uk/conference2012 . 

Mae’r eitem newyddion hon wedi’i chyhoeddi gan Delyth Purchase, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 513022, neu e-bost: d.purchase@abertawe.ac.uk