Cymru a’r Wladwriaeth Les

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gymunedol nesaf yng nghyfres rad ac am ddim Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) Prifysgol Abertawe ar ddechrau mis Mawrth.


Siaradwr: Bernard Salter

Teitl y Ddarlith: Cymru a’r Wladwriaeth Les


Dyddiad:  Iau 8fed Mawrth 2012

Amser: 10.30am – 12.15pm

Lleoliad: Canolfan Maerdy, Ffordd Newydd, Tairgwaith, Castell-nedd Port Talbot, SA18 1UD

Mynediad: Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond gan fod lle'n gyfyngedig yn y lleoliadau, gofynnwn i chi archebu lle ymlaen llaw fel na chewch eich siomi (gweler isod am fanylion cyswllt).


Crynodeb o'r ddarlith: Bydd y ddarlith yn trafod cyfraniad gwleidyddion Cymreig megis Lloyd George, Aneurin Bevan, a Jim Griffiths i sefydlu'r Wladwriaeth Les.

Cysylltwch â: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.

Postiwyd yr eitem newyddion hon gan Katy Drane, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: k.drane@abertawe.ac.uk