Cyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr yn cyrraedd yr uchelfannau: Abertawe’n dringo i draean gorau tabl y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae canlyniadau arolwg cenedlaethol annibynnol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cyfraddau bodlonrwydd ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi codi i 87%, gan roi Abertawe yn y traean uchaf ymhlith prifysgolion y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr.

Mae'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS), arolwg cynhwysfawr ar farn myfyrwyr ar draws y DU, a gynhaliwyd gan Ipsos-MORI.  Mae’r arolwg yn ddienw. 

Gofynnir i fyfyrwyr roi eu barn ar feysydd megis addysgu, pa mor dda yw’r staff wrth esbonio pethau, yr adborth y maent yn ei gael gan diwtoriaid, cyfleusterau llyfrgell a TG, a pha mor dda y mae eu cwrs wedi’i drefnu.

Cymerodd 2165 o fyfyrwyr, bron i 70% o’r holl rai a oedd yn gymwys o Abertawe, ran yn yr arolwg

• Sgôr Abertawe ar gyfer “bodlonrwydd cyffredinol” yw 87%, i fyny o 82% y llynedd.

• Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru (84%) a chyfartaledd y DU (85%)

• Mae Abertawe wedi gwella ym mhob un o’r 22 cwestiwn yn yr arolwg

• Mae Abertawe bellach wedi dringo i draean uchaf y sefydliadau ar gyfer lefelau bodlonrwydd myfyrwyr, 42fed allan o 136, naid o 38 lle o’i gymharu â’r llynedd. Dyma’r gwelliant mwyaf yng Nghymru.

• Cafodd tri o’n meysydd pwnc – Technoleg Defnyddiau a Mwynau, Sŵoleg a’n darpariaeth addysg i oedolion, eu graddio ymhlith y gorau yn y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr ac mae mwy nag un o bob pedwar o’n meysydd pwnc yn y 25% gorau o sefydliadau’r DU.

Meddai’r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr:

Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, felly rwyf wrth fy modd i weld ein bod ni bellach yn nhraean uchaf holl brifysgolion y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr. Mae neidio 38 lle mewn un flwyddyn yn gamp wych ac rwyf am ddiolch i’r holl staff ar draws y sefydliad sydd wedi gweithio mor galed i alluogi i hyn ddigwydd.  

Er ein bod yn croesawu canlyniadau heddiw yn fawr, byddwn yn gwneud gwelliannau pellach eleni.  Er enghraifft rydym wrthi ar hyn o bryd yn gwella cymorth i ddysgwyr a mynediad at ddeunydd dysgu, yn ogystal â gwella tiwtora personol ac adborth ac adnewyddu adeiladau myfyrwyr allweddol ar y campws gan gynnwys y llyfrgell a’n prif le i fyfyrwyr Tŷ Fulton.