Bay Leisure i redeg canolfan chwaraeon dwr y blaendraeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cwmni o Abertawe sy'n rhedeg un o brif atyniadau twristiaeth Cymru wedi ymuno ag un o brifysgolion Cymru i ennill tendr i reoli canolfan ddeuol chwaraeon dwr a thraeth gyntaf Cymru ym Mae Abertawe.

Bydd Bay Leisure Cyf, y cwmni nid er elw sy'n rheoli canolfan hamdden yr LC, yn creu partneriaeth â Phrifysgol Abertawe i reoli'r fenter a fydd yn agor gyferbyn â maes chwarae San Helen yn Abertawe yr hydref hwn. Yr hyn oedd yn ganolog i gais buddugol y bartneriaeth oedd creu cyfleuster gydol y flwyddyn a fyddai'n canolbwyntio ar fanteisio ar y cyfleoedd chwaraeon posib yn y dwr a'r traeth gerllaw.

Dyfarnodd Cyngor Abertawe y contract rheoli i bartneriaeth Bay Leisure Cyf a Phrifysgol Abertawe yn dilyn proses ddewis drwyadl. Ni fydd dim cymorth ariannol na chymorthdaliadau gan y cyngor i gynnal y ganolfan, a bydd unrhyw elw yn cael ei ailfuddsoddi yn y ganolfan.

Drwy greu partneriaeth â busnesau chwaraeon dwr sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal, bydd y ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gampau i unigolion ar bob lefel gan gynnwys hwylfyrddio, caiacio, syrff-farcuta, nofio dwr agored a bwrdd padlo ar eich traed.

Mae'r traeth helaeth ym Mae Abertawe hefyd yn golygu y bydd gan chwaraeon a gweithgareddau traeth ran cyn bwysiced hefyd yn y rhaglen arfaethedig a fydd yn cynnwys campau megis pêl-foli, rygbi traeth a phêl-droed traeth yn ogystal â gweithgareddau llai ffurfiol megis pétanque, ffrisbi a barcuta.

Watersports Centre image

Bydd y ganolfan, sydd ar hyn o bryd heb enw, yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau i'r gymuned sy'n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Bydd yn cynnwys caffi, cyfleusterau newid, toiledau ac ystafell amlddefnydd ar y safle.

Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys toiled Changing Places ar gyfer pobl ag anableddau lluosog neu ddwys - yr unig gyfleuster blaendraeth o'i fath yng Nghymru.

Yn ogystal â chynnig chwaraeon a gweithgareddau o'r ganolfan ei hun, bydd hefyd yn siop dan yr unto ac yn fan cyfeirio ar gyfer popeth sy'n ymwneud â'r traeth a chwaraeon dwr yn ardal Abertawe a Gwyr drwy ddatblygu partneriaethau gweithio â gweithredwyr eraill sydd eisoes yn bodoli, cyrff llywodraethu cenedlaethol a grwpiau chwaraeon.

Meddai Richard Proctor, Prif Weithredwr Bay Leisure Cyf, "Mae'r datblygiad hwn yn dipyn o gamp i Abertaweac yn gyfle gwych i ddatblygu enw'rddinas a'r ardalam ddarparu rhai o'r profiadau chwaraeon dwr gorau yn y DU. Ynghyd â'r gweithgareddau traeth, bydd y ganolfan hon yn ased gwych i'r gymuned leol. Rydym yn gobeithio y bydd yn haws o lawer i bobl roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau, a hynny ar stepen y drws fel petai. 

"Mae Bay Leisure a Phrifysgol Abertawe yn sefydliadau lleol ac yn gyfranwyr pwysig i'r economi leol. Rydym o'r farn, fel partneriaeth, y byddwn nid yn unig yn deall anghenion ein cymunedau lleol a rhanbarthol, ond hefyd yn gallu ymateb iddynt. Rydym wedi rhedeg yr LC yn llwyddiannus am bedair blynedd bron ac, o ganlyniad, mae gennym dipyn o brofiad o hybu gwasanaethau chwaraeon a hamdden i'r gymuned leol a'r farchnad dwristiaid. Mae'n dda gennym gymryd rhan mor sylfaenol wrth ehangu, gwella a datblygu'r ddarpariaeth chwaraeon a hamdden sydd ar gael i bobl sy'n byw yn Abertawe ac sy'n ymweld â'r ardal. Mae hwn yn gontract sylweddol iawn sy'n adlewyrchu ymrwymiad Bay Leisure a'r brifysgol i'r ardal. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos â Phrifysgol Abertawe yn ein partneriaeth, a chreu cyfleuster o'r radd flaenaf i'r gymuned."

Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Mae'r ganolfan hon ar gyfer chwaraeon dwr yn rhan o becyn o brosiectau a fydd yn gwneud Bae Abertawe yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer chwaraeon dwr. Mae gan Abertawe enw da eisoes fel cartref chwaraeon dwr, a bydd y ganolfan hon yn cynyddu proffil y ddinas eto.

"Rwy'n siwr y bydd y bartneriaeth waith rhwng Bay Leisure a Phrifysgol Abertaweyn arwain at fenter tra llwyddiannus a fydd yn codi statws Abertawe fel cyrchfan pwysig ar gyfer gweithgareddau awyr agored."

Meddai Paul Robinson, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Abertawe, "Rydym yn credu bod cryfderau ac arbenigedd y ddau sefydliad yn cynnig partneriaeth weithrediadol unigryw a neilltuol. Un o nodau'r bartneriaeth yw hybu cynhwysiad a hygyrchedd i bawb drwy chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chyfleoedd cymdeithasol - a thrwy hynny, gwreiddio addysg, lles a dysgu gydol oes yn y gymuned. Rydym yn ymroddedig i'r ddinas ac i wella'r mynediad i chwaraeon a hamdden i bawb. Bydd y contract hwn yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu â phobl o bob cefndir a'u cynnwys a'u hysbrydoli. Mae hwn yn gyfle y byddwn yn ei arddel yn llawn. Bydd y brifysgol yn rhoi'r cyd-destun byd-eang i'r bartneriaeth drwy agor marchnadoedd newydd a hyrwyddo'r ganolfan a'r ddinas ym mhedwar ban byd." 

Daw'r arian ar gyfer adeiladu'r ganolfan gan Lywodraeth Cymru drwy Croeso Cymru a'r rhaglen Twristiaeth Arfordirol ynghyd â chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a'r Rhaglen Ardaloedd Adfywio.

Mae gwaith adeiladu'r ganolfan wedi dechrau eisoes, gan ddisgwyl y bydd wedi'i gwblhau erbyn yr haf a'r bwriad o'i hagor i'r cyhoedd yn yr hydref.