Athro o Brifysgol Abertawe wedi’i ddewis i gynghori Comisiynydd yr Iaith Gymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Gwynedd Parry wedi’i benodi yn aelod o Banel Cynghori Comisiynydd yr Iaith Gymraeg gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau.

Mae Gwynedd Parry yn Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ac yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.

Gwynedd Parry

Penodwyd y Panel Cynghori, sy’n banel statudol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a thasg y panel fydd darparu’r Comisiynydd â chyngor diduedd ac annibynnol ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau a phwerau.

Byddant yn ceisio sicrhau bod sefydliadau yn gweithredu yn ôl safonau’r iaith Gymraeg, cynghori Gweinidogion Cymru ac eraill ar bolisi iaith ac ymchwilio i faterion sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg.

Meddai’r Athro Gwynedd Parry: ‘‘Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi yn aelod o’r Panel Cynghori. Bydd yn gyfle gwych i mi ddefnyddio fy arbenigedd ym maes statws cyfreithiol y Gymraeg a chyfreitheg iethoedd lleiafrifol er budd gwasanaethau cyhoeddus.’’

Aelodau eraill y Panel Cynghori yw Dr Ian Rees, Mrs Virginia Isaac a Mr Gareth Jones. Bydd eu penodiadau yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2015.