Arweinwyr BBaChau ar frig y dosbarth unwaith eto

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae perchnogion/rheolwyr Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yng Nghymru wedi llwyddo mewn rhaglen LEAD Cymru 10-mis o hyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Gwnaeth y seithfed carfan, a oedd yn cynnwys 24 o gyfranogwyr, gymryd rhan yn y cwrs blaenllaw i ddatblygu sgiliau arwain a chraffter busnes yn Ysgol Busnes ac Economeg y Brifysgol.

LEAD Wales Cohort 7

Roedd y cwmnïau’n amrywio o elusennau, asiantaethau  gosod tai a chwmnïau marchnata a digwyddiadau, i ganolfannau marchogol a gwneuthurwyr dodrefn.

Tra’n siarad am fuddion cymryd rhan yn y rhaglen, meddai un o’r graddedigion diweddar, Gwyneth Jones o Age Concern Ceredigion,: “Ar ddechrau’r rhaglen, i raddau helaeth roeddwn i wedi ymgolli yn fy myd fy hun a doeddwn i ddim yn siŵr sut y byddwn yn elwa o’r rhaglen LEAD.

“Rydw i’n dal i fod yn fy nghwch fy hun ond mae’r cwch hwnnw wedi dod yn fwy ac mae pobl wedi ymuno â mi ar y siwrne. Rydyn ni wedi rhannu profiadau a gallwn gefnogi ein gilydd trwy’r cyfnodau da a drwg.  

“Rydw i wedi elwa llawer o’r hyfforddiant a’r gwersi Dysgu Gweithredol. Mae’r siwrne’n parhau; bu LEAD Cymru’n ysbrydoledig.”

Cafodd Steve Hartley o Dolphin Survey Boat Trips ei bartneru â gemydd a dylunydd graffeg ar gyfer y gweithgareddau cysgodi.

Meddai: “Os ydych chi am redeg busnes gwych, does dim lle gwell na LEAD Cymru.  Rydw i’n fwy trefnus ac yn canolbwyntio’n fwy ar yr hyn y dylwn i fod yn ei wneud; rydw i’n rheoli pobl trwy gyfathrebu gwell ac rydw i wedi dysgu sut i ddirprwyo gwaith, gosod amcanion a dilyn drwodd.

“Rydw i wedi dysgu cymaint amdanaf i ac wedi gwerthfawrogi’r amser i fyfyrio. Bu hyfforddi’n ddatguddiad ac mae wedi fy nysgu i gydnabod fy nghyraeddiadau fy hun. Ac rydw i wedi dysgu gwers werthfawr – paid ag ofni methu, rhowch gynnig arni!”

Hyd yma mae dros 325 o gwmnïau wedi cymryd rhan yn rhaglen LEAD Cymru a gwelwyd cynnydd cyfartalog o 26% mewn trosiant, sydd wedi arwain at greu mwy na 300 o swyddi newydd yng Nghymru.

Cynhelir cyfres o 30 o raglenni ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor tan 2015.

Mae’r cyrsiau am ddim i fusnesau – am ragor o wybodaeth am raglen LEAD Cymru, galwch 01792 606738, e-bostwich: info@leadwales.co.uk, neu ewch i www.leadwales.co.uk.