Arbenigwr geneteg o Brifysgol Abertawe’n ysbrydoli Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darlithydd , gwyddonydd ymchwil a datblygwr technolegau newydd mewn Tocsicoleg Eneteg o Brifysgol Abertawe wedi curo cystadleuaeth frwd i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Inspire Wales IWA.

Mae Dr George Johnson, Uwch-ddarlithydd mewn Geneteg ac aelod o’r grwpiau addysgu Ymchwil Niwed DNA a Geneteg a Biocemeg, yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, wedi’i ddewis fel un o dri i gyrraedd rownd derfynol y gwobrau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau’n gamp ardderchog gan fod IWA, sy’n trefnu’r gwobrau, wedi dweud bod nifer ac ansawdd y cystadleuwyr ar gyfer y categori hwn wedi bod yn rhyfeddol o uchel eleni. Pwysleisir y llwyddiant hwn hefyd drwy ansawdd enillydd gwobr y llynedd, yr Athro Anthony Campbell o Ysgol Fferylliaeth Cymru Prifysgol Caerdydd.

Meddai Dr Johnson: “ Roedd yn bleser i mi gael fy enwebu gan y Brifysgol am y wobr nodedig hon, ac roedd cyrraedd y rownd derfynol yn fraint ychwanegol nad oeddwn yn ei disgwyl. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ysbrydoli myfyrwyr ac ymchwilwyr i fod y gorau ag y gallent. Mae’n bwysig i mi bod myfyrwyr yn sylweddoli teimlad mor anhygoel ydyw i fwynhau eich swydd ac os oes diddordeb gennych mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yna mae’r byd yn agor ei ddrysau i chi”.

Mae Prifysgol Abertawe’n adnabyddus yn fyd-eang am Docsicoleg Eneteg ac mae Dr Johnson, ynghyd â chydweithwyr o’r grwp ymchwil niwed DNA, yn brysur wrthi’n archwilio mecanweithiau ac effeithiau penodol gwenwynau gan geisio mynd i’r afael o hyd â materion diwydiannol a chyfarch a chynghori ar safbwyntiau diogelwch llywodraethol. Mae Dr Johnson yn gweithio gydag asiantaethau llywodraethol o’r Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Canada ar hyn o bryd, yn ogystal ag ymgynghorwyr ac academyddion blaenllaw o Goleg Meddygol New York a Phrifysgol St George Llundain, gan sicrhau bod ymchwil y Brifysgol yn amlwg ar lwyfan byd-eang a chan amlygu’r rhagoriaeth wyddonol a thechnolegol yn Abertawe a Chymru. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar bennu lefelau diogel gwenwynau, ac mae Dr Johnson a’r grwp niwed DNA eisoes yn bwer blaenllaw yn y mae hwn. 

Bu gan George ddiddordeb erioed mewn ymchwil ym maes canser ac mae’n credu y gall leihau cysylltiad bodau dynol â gwenwynau mewn bwyd, deunydd fferyllol, ac amgylcheddau gwaith a’r cartref leihau ein peryg o ddatblygu canser yn sylweddol. Mae’r arbenigedd hwn mewn profi carsinogenigrwydd wedi arwain yr Athro Gareth Jenkins (PI), Dr. Shareen Doak a George at ennill grant gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Disodli, Newid a Lleihau’r Defnydd o Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs), lle y mae’r grwp yn datblygu dull i ddisodli’r prawf canser 2 flynedd ar gnofilod gan ddefnyddio llinellau celloedd a thechnolegau newydd a ddatblygir gan GE Healthcare (Caerdydd, Cymru).

Ynghyd â’i lwyddiannau eraill mae George hefyd wedi cynnal cynllun lleoliad diwydiannol ar gyfer graddedigion Geneteg a Geneteg Feddygol ac mae wedi cael tri lleoliad llwyddiannus yn Glaxo-SmithKline (GSK) gydag un arall yn dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn hefyd wedi arwain at wobr achos Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) - GSK ar gyfer un o’r myfyrwyr, Ben Rees, sydd eisoes wedi cyhoeddi ei waith mewn dwy gynhadledd ryngwladol. Mae George hefyd wedi’i wahodd i gynrychioli’r Brifysgol mewn dros 20 o gynadleddau a chyfarfodydd rhyngwladol, ac yn aml yn cael ei hun fel yr unig un ar y llwyfan dan 50 oed!

Mae’r categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a ariannir gan Western Power Distribution, yn cydnabod cyfraniad gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg i fyd gweithgynhyrchu a diwydiant, y byd academaidd neu’r sector cyhoeddus. Mae’r categori hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr arddangos sut y mae eu gweithgareddau wedi bod o fudd i’w meysydd penodol neu wedi darparu budd mwy cyffredinol i Gymru.