Arbenigwr geneteg o Brifysgol Abertawe’n ennill gwobr gwyddonydd ifanc y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae darlithydd , gwyddonydd ymchwil a datblygwr technolegau newydd mewn Tocsicoleg Eneteg o Brifysgol Abertawe wedi curo cystadleuaeth frwd i ennill Gwobr Gwyddonydd Ifanc freintiedig UKEMS.

Mae Dr George Johnson, Uwch-ddarlithydd mewn Geneteg ac aelod o’r grwpiau addysgu Ymchwil Niwed DNA a Geneteg a Biocemeg, yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd, wedi ennill Gwobr Gwyddonydd Ifanc Cymdeithas Fwtagen Amgylcheddol y DU (UKEMS) yn ogystal â chyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Gwyddoniaeth a Thechnoleg gwobrau IWA Inspire Wales.

Mae cael eich dewis ar gyfer y gwobrau hyn yn gamp ardderchog gan fod nifer ac ansawdd y cystadleuwyr ar gyfer y gwobrau hyn wedi bod yn rhyfeddol o uchel eleni.

Caiff gwobr Gwyddonydd Ifanc Cymdeithas Fwtagen Amgylcheddol y DU (UKEMS) ei chyflwyno i aelod o UKEMS dan 35 oed sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r maes. Mae’n wobr a ddyfernir bob dwy flynedd a dyma’r tro cyntaf i academydd o Brifysgol Abertawe ennill y wobr ers ei sefydliad ym 1996. 

Mae Gwobrau Inspire IWA yn cydnabod cyfraniad gweithgareddau gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg mewn gweithgynhyrchu a diwydiant, y byd academaidd neu’r sector cyhoeddus.

Meddai Dr Johnson: “ Roedd yn fraint i mi gael fy enwebu gan y Brifysgol am y gwobrau nodedig hyn. Roedd ennill un wobr a chyrraedd y rownd derfynol ar gyfer un arall yn llwyddiant ychwanegol nad oeddwn yn ei ddisgwyl. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ysbrydoli myfyrwyr ac ymchwilwyr i fod y gorau ag y gallent. Mae’n bwysig i mi bod myfyrwyr yn sylweddoli teimlad mor anhygoel ydyw i fwynhau eich swydd ac os oes diddordeb gennych mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yna mae’r byd yn agor ei ddrysau i chi”.

Mae Prifysgol Abertawe’n adnabyddus yn fyd-eang am Docsicoleg Eneteg ac mae Dr Johnson, ynghyd â chydweithwyr o’r grŵp ymchwil niwed DNA, yn brysur wrthi’n archwilio mecanweithiau ac effeithiau penodol gwenwynau gan geisio mynd i’r afael o hyd â materion diwydiannol ac ymdrin â a chynghori ar safbwyntiau diogelwch llywodraethol. Mae Dr Johnson yn gweithio gydag asiantaethau llywodraethol o’r Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Canada ar hyn o bryd, yn ogystal ag ymgynghorwyr ac academyddion blaenllaw o Goleg Meddygol Efrog Newydd a Phrifysgol St George Llundain, gan sicrhau bod ymchwil y Brifysgol yn adnabyddus ar lwyfan byd-eang a chan amlygu’r rhagoriaeth wyddonol a thechnolegol yn Abertawe a Chymru. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar bennu lefelau diogel gwenwynau, ac mae Dr Johnson a’r grŵp niwed DNA eisoes yn bŵer blaenllaw yn y maes hwn.

DNA Damage Research Group

Bu gan George ddiddordeb erioed mewn ymchwil ym maes canser ac mae’n credu y gall leihau cysylltiad bodau dynol â gwenwynau mewn bwyd, deunydd fferyllol, ac amgylcheddau gwaith a’r cartref leihau ein peryg o ddatblygu canser yn sylweddol. Mae’r arbenigedd hwn mewn profi carsinogenigrwydd wedi arwain at ddyfarniad grant i’r Athro Gareth Jenkins (PI), Dr. Shareen Doak a George gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Disodli, Newid a Lleihau’r Defnydd o Anifeiliaid mewn Ymchwil (NC3Rs), lle y mae’r grŵp yn datblygu dull posibl i ddisodli’r prawf canser 2 flynedd ar gnofilod gan ddefnyddio llinellau celloedd a thechnolegau newydd a ddatblygir gan GE Healthcare (Caerdydd, Cymru).

Ynghyd â’i holl lwyddiannau eraill mae George hefyd wedi cynnal cynllun lleoliad diwydiannol ar gyfer graddedigion Geneteg a Geneteg Feddygol ac mae wedi cael tri lleoliad llwyddiannus yn Glaxo-SmithKline (GSK) gydag un arall yn dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn hefyd wedi arwain at wobr achos y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) - GSK ar gyfer un o’r myfyrwyr, Ben Rees, sydd eisoes wedi cyhoeddi ei waith mewn dwy gynhadledd ryngwladol. Mae George hefyd wedi’i wahodd i gynrychioli’r Brifysgol mewn dros 20 o gynadleddau a chyfarfodydd rhyngwladol, ac yn aml yn cael ei hun fel yr unig un ar y llwyfan dan 50 oed!   

Llun: grŵp ymchwil niwed DNA.