Anturiaethwraig i Arwain Digwyddiad Cyntaf Cangen Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Lowri Morgan, Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe fydd yn agor digwyddiad cyntaf Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol brynhawn Mercher 5 Rhagfyr 2012.

LowriMorgan

Bydd y gyflwynwraig deledu fentrus o Dregŵyr yn lansio gofod dysgu newydd y Brifysgol sydd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Bydd yr ystafell ddysgu amlbwrpas ar gampws y Brifysgol yn adnodd defnyddiol i fyfyrwyr ac yn eu galluogi i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn gwahanol sefydliadau diolch i’r technolegau e-ddysgu diweddaraf.

I ddilyn, bydd Lowri yn cynnal sesiwn ‘Ysbrydoli Myfyrwyr’ ac yn cynnig gair o gyngor i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ar sut i gyflawni uchelgeisiau a wynebu rhai o heriau mwyaf bywyd.

I gloi, bydd cyfarfod agored cyntaf fforwm y Gangen yn cael ei gynnal yng nghwmni’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bwriad y cyfarfod fydd rhoi cyfle i staff a myfyrwyr y Gangen ddysgu am ddatblygiadau diweddaraf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â lleisio eu barn am Gangen Prifysgol Abertawe a sefydlwyd y llynedd o dan adain Academi Hywel Teifi.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Bydd y gofod dysgu newydd yn hwb sylweddol i'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn fuddsoddiad gwerth chweil i’r dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weld myfyrwyr a deiliaid Cynllun Staffio’r Brifysgol yn rhannu syniadau a thrafod y potensial o gydweithio ar draws y disgyblaethau academaidd yn ystod y fforwm. Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu nawdd ac i Lowri Morgan am arwain yr agoriad.’’

Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae sicrhau mannau dysgu priodol ar gyfer darpariaeth gydweithredol ar draws Cymru yn rhan annatod o gynlluniau’r Coleg i sicrhau addysg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Wrth gydweithio gyda’r sefydliadau, mae’r Coleg eisoes wedi mynd ati i sefydlu gofodau dysgu sy’n cynnwys yr offer fideo-gynhadledda diweddaraf i alluogi dysgu darpariaeth gydweithredol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn chwe phrifysgol ar draws Cymru. Mae’n bleser gennym felly lansio’r gofod dysgu yng nghangen y Coleg ym Mhrifysgol Abertawe a hyderwn y bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb sylweddol i’r cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.”