Angen cyfle i gymdeithasu yn Gymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae adroddiad newydd gan Brifysgol Abertawe yn argymell sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg led led Cymru, lle byddai modd i ddysgwyr Cymraeg ac eraill gymdeithasu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Bydd yr adroddiad sy'n ffrwyth gwaith ar y cyd gan Heini Gruffudd a Steve Morris ar ran Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad dan nawdd Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Mike Hedges yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2012 am 12.30yp.

Mae’r Ganolfan sydd yn rhan o Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe wedi cwblhau’r gwaith ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru. Fe gyfrannodd traean o’r holl ddysgwyr ar gyrsiau lefel uwch yng Nghymru at y gwaith rhwng 2009-2010.

Prif neges yr adroddiad, ‘Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg’ yw y dylid mynd ati i sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg Cymru. Pwrpas canolfannau o'r fath fyddai rhoi cyfle i oedolion sy'n dysgu ac wedi dysgu'r Gymraeg gymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg eraill.

Gallai lleoedd o'r fath brofi'n ddeniadol i nifer cynyddol o blant a phobl ifanc sydd wedi derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn methu cael cyfle i ddefnyddio’r iaith y tu allan i goridorau’r ysgol.

Meddai Steve Morris o Ganolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru: ‘‘Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gydweithio gyda’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion, Mentrau Iaith a sefydliadau eraill er mwyn sefydlu Canolfannau Cymraeg ar draws Cymru dros y deng mlynedd nesaf. Mae nifer ohonynt yng Ngwlad y Basg wedi’u hariannu gan y Llywodraeth. Tair yn unig sydd yng Nghymru a phob un wedi’i sefydlu gan fentrau lleol. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld gwelliant yn y ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr newydd y Gymraeg yn eu cymunedau yn y dyfodol.’’