Anabledd “Twyllodrus” mewn Persbectif Hanesyddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar adeg pan fo chwech o elusennau anabledd blaenllaw y DU yn rhybuddio bod tuedd y cyfryngau i ganolbwyntio ar dwyll neu or-hawlio budd-daliadau anabledd a budd-daliadau eraill yn achosi camdriniaeth o bobl anabl, mae ymchwil gan academydd o Brifysgol Abertawe wedi dangos nad yw drwgdybiaeth o’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau yn ffenomen newydd.

Mae Dr David Turner o Adran Hanes a Chlasuron Prifysgol Abertawe yn dadlau mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Hanes a Pholisi bod pobl ag anableddau a salwch wedi cael eu hamau ers dechreuadau’r polisi gwladwriaeth les yn 1601 gan wynebu cyhuddiadau eu bod yn ffugio’u cyflwr meddygol neu’n ei orddweud.

Dywedodd Dr Turner "Mae diffinio analluogrwydd wastad wedi bod yn anodd, gan hybu amheuon, tra bod ymdrechion i adnabod y rhai gwirioneddol anghenus wedi dwysáu, yn enwedig ers oes Fictoria. Yn hanesyddol, mae hyn nid yn unig wedi diogelu hawl pobl sâl ac anabl i gefnogaeth, ond hefyd wedi creu gwahaniaethau ac wedi ennyn drwgdybiaeth, gan godi amheuon ynghylch haeddiant nifer o hawlwyr anabl. "

Mae'r rhain yn wahaniaethau sydd wedi bod yn rhan annatod o bolisi lles ac sydd wedi cael eu tanlinellu gan y cyfryngau dros gannoedd o flynyddoedd. Mae'r cyfryngau hefyd wedi datblygu delweddau o fathau o bobl anabl ‘da' a 'drwg' gan sefydlu’r egwyddor bod angen cydymffurfio i werthoedd diwylliannol penodol ynglyn â’r ffordd y dylai person anabl edrych neu sut y dylent ymddwyn er mwyn haeddu cael cymorth, yn hytrach nag arddangos angen syml. Mae'r ystrydebau hyn yn pwyso’n drwm ar bobl ag anableddau heddiw.

Dywedodd Dr Turner: 'Mae twyll budd-dal yn broblem sydd wedi bodoli erioed, ond mae angen ei roi y ei gyd-destun. Ni fu erioed tystiolaeth bod nifer fawr o bobl yn dewis byw ar fudd-daliadau isel os ydynt â’r gallu i ennill swm uwch o arian. Does dim un llywodraeth, gan gynnwys yr un bresennol, wedi dod o hyd i ffordd i alluogi pobl anabl i fod yn ddefnyddiol yn gymdeithasol (yn sgil cyflogaeth neu fel arall) heb fod hynny ar yr un pryd yn atgyfnerthu ystrydebau sy’n ymwneud â thwyll neu fai. Mae'r agweddau hyn tuag at anabledd, sy’n rhannu’r gymdeithas, yn rhai a achosir gan obsesiwn annefnyddiol gyda’r ‘rhai sy’n cymryd mantais o’r system’ ac yn rhwystro datblygiad polisi galluogi gwirioneddol sy'n canolbwyntio ar y rhwystrau y mae pobl sâl ac anabl yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith '.

Mae Dr Turner newydd orffen ysgrifennu llyfr, Disability in Eighteenth-Century England, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Routledge yn ddiweddarach eleni. Ar hyn o bryd fe yw cyd-gyfarwyddwr, gyda'r Athro Anne Borsay (Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd), y prosiect ymchwil 'Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol: Hanes Diwylliannol Cymharol o Feysydd Glo Prydain, 1780-1948'.